Yn ôl Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, dydy’r penderfyniad i ganslo cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr ddim yn “pigo ar” ardaloedd gwledig.

Ddydd Llun (Tachwedd 1), fe gyhoeddodd y Llywodraeth na fyddai’r cynllun ffordd osgoi yng Ngwynedd yn parhau.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gohirio cynlluniau i adeiladu ffyrdd ledled Cymru wrth i adolygiad annibynnol gael ei gynnal am eu heffaith amgylcheddol.

Nododd yr adolygiad annibynnol o gynlluniau’r ffordd osgoi yn Llanbedr na ddylai’r gwaith barhau ac yn hytrach, y dylid edrych ar “becyn amgen o fesurau” i leihau effeithiau traffig ar Lanbedr a phentrefi cyfagos.

Mewn cwestiwn a gafodd ei drefnu mewn Dadl Amserol ar lawr y Siambr ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 3), fe ddywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ei fod yn “gynddeiriog” dros y penderfyniad.

Fe wnaeth gymhariaeth rhwng cynllun Llanbedr a’r gwaith i ddeuoli’r A465 rhwng Dowlais Top a Hirwaun sydd yn parhau.

Ymateb

Dywedodd Lee Waters ei fod yn deall ei siom “oherwydd mae ymlyniad lleol cryf yn aml i’r cynlluniau hyn”.

“Dwi’n deall rhwystredigaeth yr Aelod ond dwi ddim yn gallu ei gyfuno gyda’r hyn mae e hefyd yn dweud fod yn rhaid i ni wneud ar Sero-Net,” meddai.

“Mae’n anghywir i awgrymu fel mae’r Aelod o’r Senedd fod Cymru wledig, neu Gwynedd yn benodol, yn cael ei bigo arno yma.

“Dyma’r agwedd y dylen ni fod yn ei chymryd ar draws Gymru oherwydd mae’r wyddoniaeth yn mynnu ein bod yn gwneud hynny.

“Mae’r argyfwng hinsawdd mae e a fi a Chyngor Gwynedd wedi ei arwyddo hefyd yn mynnu ein bod yn gwneud hynny”.