Mae Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi cyfaddef fod “problemau gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol”, gan feio “swyddi mwy deniadol” yn y sectorau lletygarwch a manwerthu.
Fe wnaeth Julie Morgan y sylwadau yn ystod sesiwn yn y Senedd, a thynnodd Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdiethasol y Ceidwadwyr Cymreig, sylw at y ffaith fod byrddau iechyd yn “denu” staff o’r sector gofal gyda thâl ac amodau gwell.
Yn ôl Gareth Davies, mae hynny’n ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau cydraddoldeb rhwng y sector gofal a’r Gwasanaeth Iechyd.
Wrth ymateb, dywedodd Julie Morgan “fod hynny’n amlwg yn broblem all ddigwydd”, a’i bod hi’n “gobeithio gallu cyhoeddi rhywbeth yn fuan” ar wella tâl i weithwyr gofal cymdeithasol.
‘Anodd iawn denu pobol’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu isafswm cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol o £9.50 i £10 yr awr, ac wrth siarad yn y Senedd dywedodd Gareth Davies fod yr argyfwng yn deillio o anallu i recriwtio gweithwyr gan nad yw’r tâl a’r amodau’n ddeniadol.
Dywedodd Julie Morgan eu bod nhw’n “derbyn bod yna broblemau gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol a’i bod hi’n anodd iawn recriwtio ar y funud”.
“Y rheswm pam ei bod hi mor anodd recriwtio yw oherwydd, i rai gweithwyr, mae yna swyddi mwy deniadol yn y sector manwerthu neu’r sector lletygarwch, sydd wedi agor yn ddiweddar,” meddai Julie Morgan.
“Mae’n anodd iawn denu pobol i’r maes gofal cymdeithasol ar y funud.
“Ond rydyn ni wedi ymroi i gyflwyno isafswm cyflog gwirioneddol.”
Bydd yr isafswm cyflog wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi Dachwedd 15, meddai wedyn, ond bydd rhaid aros i weld faint fydd hynny.
Gwella amodau
Aeth Julie Morgan yn ei blaen i ddweud bod angen gwella amodau a hybu’r maes gofal iechyd, yn ogystal â diweddaru’r isafswm cyflog.
“Mae gan staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol amodau sydd wedi gwella dipyn mwy na staff gofal cymdeithasol,” meddai.
“Felly, dw i’n meddwl bod rhaid i ni wneud pob ymdrech i hybu’r maes gofal cymdeithasol.
“O leiaf drwy’r holl bandemig hwn, dw i’n meddwl bod pobol nawr yn ymwybodol o beth yw gofal cymdeithasol, a dw i’n meddwl bod yn werthfawrogiad o’r hyn mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud, ac rydyn ni’n benderfynol o gynnal enw da’r proffesiwn.
“Dw i’n meddwl mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw gwella enw da’r proffesiwn, dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol.”
‘Uwch ei pharch’
Wrth ymateb, dywedodd Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn “falch fod y Dirprwy Weinidog wedi cydnabod yr anawsterau yn y sector gofal cymdeithasol”.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi credu ers tro mewn gwella swydd gofalwr drwy ei gwneud hi’n drywydd gyrfa fwy boddhaus ac uwch ei pharch, ac mae’n dda gweld y Llywodraeth yn derbyn hynny,” meddai.
“Fodd bynnag, mae geiriau gweinidogion yn rhai gwag pan maen nhw’n cwrdd â realiti.
“Mae gennym ni argyfwng recriwtio yn sector gofal cymdeithasol Cymru ac mae hynny wedi digwydd dan olwg Llafur.
“Os yw’r sector yn anneniadol o gymharu â gweithio mewn siop neu westy, yna mae’n rhaid i weinidogion edrych yn fanwl ar pam.
“Rydyn ni’n credu bod cyflwyno isafswm tâl o £10 yn gam cyntaf hanfodol i hynny, a chynyddu’r ymgyrch i ddenu mwy o weithwyr drwy ddangos lle y gall gyrfa mewn gofal arwain yn ogystal â dangos natur foddhaus y swydd.
“Byddwn yn hapus i weithio gyda llywodraeth sydd eisiau llwyddo i wneud hynny.”