Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod corff wedi ei ganfod mewn cerbyd yng Ngwynedd.

Roedd gyrrwr y cerbyd wedi’i losgi’n farw yn dilyn ffrwydrad ar yr A498 ger Nant Gwynant ddydd Mawrth (Tachwedd 2).

Dydy’r un a fu farw heb allu cael ei adnabod eto, wrth i’w gorff gael ei archwilio gan grwner a phatholegydd.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig cyn 2 o’r gloch y prynhawn, a bu’r ffordd rhwng Beddgelert a Phen-y-pas ar gau yn sgil y digwyddiad.

Roedd y ffordd wedi ailagor erbyn 9.05yh y noson honno.

Datganiad

“Am 1.57pm ar 2/11 fe alwyd yr Heddlu yn dilyn adroddiad o ffrwydrad a cherbyd ar dân ar yr A498 ger Nant Gwynant,” meddai Heddlu’r Gogledd ar eu tudalen Facebook.

“Canfuwyd corff sydd heb ei adnabod eto yn sedd y gyrrwr.

“Mae’r heddlu’n gweithio’n agos gyda’r Crwner a Phatholegydd o’r Swyddfa Gartref er mwyn adnabod yr un a wnaeth farw a’r amgylchiadau o gylch y digwyddiad.

“Mae swyddogion yn apelio am dystion a welodd y ffrwydrad neu’r cerbyd yn y lleoliad cyn y digwyddiad i gysylltu â ni drwy ein gwefan ar-lein neu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod Z160711.”