Mae’n “warthus” fod ffermwyr sydd wedi plannu coed fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru wedi cael eu dirwyo am dorri rheolau cynllunio, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Bu’n rhaid i un ffermwr, David Mills sy’n ffermio ger Aberhonddu, dalu dirwy o £15,000 wedi iddo dorri’r rheolau, weithiau o ddim ond ychydig fodfeddi, yn ôl BBC Cymru Fyw.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, bydd yr agwedd hon gan Lywodraeth Cymru’n annog pobol i ddal yn ôl wrth geisio mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC fod rhaid casglu dirwyon pan fo amodau cytundebau yn cael eu torri, a bod ganddyn nhw rwymedigaeth statudol i orfodi rheolau Comisiwn Ewrop.
‘Trechu synnwyr cyffredin’
Wrth ymateb i’r dirwyon, dywed Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, “ein bod ni’n gweld rheolau disynnwyr yn trechu synnwyr cyffredin eto, gyda ffermwyr Cymraeg yn cael eu dirwyo, yn syml, am wneud eu rhan i frwydro newid hinsawdd”.
“Mae yna lefel sylweddol o ddiffyg gweithredu wedi bod gan Lywodraethau Llafur dros dymhorau Seneddol dilynol, a bydd rheolau gwirion fel hyn yn ychwanegu at y broblem,” meddai.
“Byddai’r rhan fwyaf o bobol yn disgwyl cymeradwyaeth, ond yn hytrach maen nhw wedi cael eu bwrw â dirwy o £15,000 gan Lywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, ac am be? Plannu coeden dair modfedd allan o’i lle.
“Mae’n warthus a bydd yr agwedd hon gan Lafur ond yn annog pobol sy’n gweithio’n galed i ddal yn ôl yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru.”
Cefndir
Bu’n rhaid i David Mills dalu dirwy o £15,000 eleni wedi iddo blannu 13,000 coeden ar 20 erw o dir bum mlynedd yn ôl, meddai wrth y BBC.
Defnyddiodd gontractwyr oedd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a grant gan Daliadau Gwledig Cymru.
Ond ar ddechrau’r flwyddyn, derbyniodd lythyr gan Daliadau Gwledig Cymru yn dweud ei fod wedi torri’r cynlluniau gwreiddiol ac y byddai’n rhaid talu’r ddirwy.
Yn ôl David Mills, cafodd y nifer cywir o goed eu plannu, a rhywun o Lywodraeth Cymru wnaeth gynllunio a chreu’r diagramau ar gyfer eu plannu.
Er iddo apelio yn erbyn y ddirwy, bu’n aflwyddiannus, ond mae ganddo’r hawl o hyd i apelio’r ddirwy, meddai Llywodraeth Cymru, gan ychwanegu eu bod nhw’n adolygu rheolau presennol y cynllun Creu Coetir Glastir, sef y cynllun sy’n cynnig grantiau i ffermwyr blannu coed er mwyn cynyddu bioamrywiaeth ac atal effeithiau newid hinsawdd.