Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ailfeddwl eu cynlluniau ar ganllawiau ymddygiad aelodau seneddol yn dilyn ymateb chwyrn gan wrthbleidiau.

Ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 3), fe bleidleisiodd aelodau seneddol i beidio gwahardd y Ceidwadwr am dorri rheolau lobïo honedig, ond o blaid diwygio system safonau Tŷ’r Cyffredin.

Roedd y cyn-weinidog Owen Paterson, Aelod Seneddol Gogledd Sir Amwythig, yn wynebu cael ei wahardd am 30 diwrnod ar ôl i bwyllgor safonau trawsbleidiol y Senedd ganfod ei fod wedi camddefnyddio ei swydd er budd dau gwmni yr oedd yn gweithio iddyn nhw.

Mae hynny wedi arwain at gyhuddiadau o ‘sleaze’, gyda Llafur yn dweud bod y blaid yn esgeuluso un o’u haelodau ei hun a bod y Blaid Geidwadol yn “bydredig i’r carn”.

Cefnogaeth drawsbleidiol

Mae Jacob Rees-Mogg, arweinydd Tŷ’r Cyffredin, wedi cadarnhau na fydd y newidiadau yn mynd rhagddynt heb gefnogaeth drawsbleidiol.

Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin fod “teimlad cryf” na ddylai unrhyw newid i’r broses safonau “fod yn seiliedig ar un achos”.

Dywedodd y byddai’r llywodraeth yn dod yn ôl at aelodau seneddol gyda chynigion manylach i newid y system wedi iddyn nhw gynnal trafodaethau gyda’r pleidiau eraill.

Mae’n debyg y bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal ynghylch a ddylid atal Owen Paterson.

Yn ôl Thangam Debbonaire, arweinydd cysgodol y Tŷ, fe fydd ei phlaid yn “edrych gyda diddordeb” ar unrhyw gynnig newydd.

 

Owen Paterson: Pleidlais i beidio ei wahardd am dorri rheolau lobïo honedig

Yn lle hynny, Senedd San Steffan yn pleidleisio o blaid diwygio system safonau Tŷ’r Cyffredin

Cyhuddo’r Ceidwadwyr o geisio “bwlio” comisiynydd o’i swydd

Roedd un gweinidog wedi awgrymu y dylai’r Comisiynydd Safonau Kathryn Stone ymddiswyddo yn dilyn ei hymchwiliad i weithredoedd Owen Paterson