Mae’r bilsen Covid-19 gyntaf i’w chymryd yn y cartref wedi cael ei gymeradwyo yn y Deyrnas Unedig.
Bydd Molnupiravir yn addas ar gyfer pobol sydd wedi cael prawf positif ac sydd ag o leiaf un ffactor gwaelodol sy’n golygu bod ganddyn nhw risg uwch o gael salwch difrifol, gan gynnwys gordewdra, bod dros 60 oed, neu fod â chlefyd siwgr neu glefyd y galon.
Yn ôl asiantaeth MHRA, mae’r cyffur yn ddiogel ac yn effeithiol wrth leihau’r perygl o orfod mynd i’r ysbyty neu farw os os gan bobol symptomau isel neu gymhedrol.
Mae’r cyffur, sydd wedi’i ddatblygu gan Ridgeback Biotherapeutics a Merck Sharp & Dohme (MSD), yn gweithio drwy amharu ar ailgynhyrchu’r feirws.
Mae’n atal y feirws rhag ailgynghyrchu, gan gadw lefelau’n isel yn y corff a lleihau difrifoldeb yr haint.
Dylid cymryd y cyffur mor fuan â phosib ar ôl cael prawf positif, ac yn sicr o fewn pum niwrnod.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi caffael 480,000 cwrs o’r cyffur ar ôl i astudiaeth ddangos ei fod yn torri derbyniadau i’r ysbyty yn eu hanner ymhlith y garfan mae’r cyffur yn addas ar eu cyfer.
Cafodd cleifion y cyffur ddwywaith y dydd fel rhan o’r astudiaeth.
‘Diwrnod hanesyddol’
“Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol i’n gwlad, gan mai’r Deyrnas Unedig bellach yw’r wlad gyntaf yn y byd i gymeradwyo gwrth-feirol y mae modd ei gymryd gartref at Covid-19,” meddai Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan.
“Bydd hyn yn newid y cyfan i’r rhai mwyaf bregus a’r rhai y mae eu systemau imiwnedd wedi’u llethu, ac a fydd cyn bo hir yn gallu derbyn y driniaeth sy’n torri tir newydd.
“Rydym yn gweithio’n gyflym ledled y Llywodraeth a gyda’r Gwasanaeth Iechyd i amlinellu cynlluniau i roi molnupiravir i gleifion drwy astudiaeth genedlaethol cyn gynted â phosib.
“Bydd y gwrth-feirol hwn yn ychwanegiad gwych i’n harfau yn erbyn Covid-19, ac mae’n dal yn hanfodol fod pawb yn dod ymlaen ar gyfer eu brechlyn Covid-19 sy’n achub bywydau – yn enwedig y rhai sy’n gymwys ar gyfer dos atgyfnerthu – i sicrhau bod cynifer o bobol â phosib yn cael eu gwarchod dros y misoedd i ddod.”