Mae un o gynghorwyr Sir Ddinbych yn dweud fod angen dybryd am ysgol uwchradd newydd ym Mhrestatyn.

Honnodd y Cynghorydd Paul Penlington fod £107 miliwn wedi ei wario ar ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y sir, ond fod Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi ei hanwybyddu yn llwyr.

Mae’n debyg fod yr ysgol, sy’n dyddio’n ôl i’r 1950au, angen arian ar frys i drwsio waliau a tho sy’n gyflym ddadfeilio, a bod gormod o ddisgyblion wedi eu cofrestru yno.

Mewn ymateb i’r sefyllfa, mae’r Cynghorydd Penlington nawr wedi cyflwyno cynnig i Gyngor Sir Ddinbych i geisio am arian gan Lywodraeth Cymru, a fyddai’n cael ei dalu’n ôl dros y degawdau nesaf.

Mwy na thebyg bydd y cynnig yn cael ei drafod yng nghyfarfod llawn olaf y Cyngor eleni ar 7 Rhagfyr.

‘Fel sardîns’

“Mae mwyafrif adeiladau Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi eu hadeiladu yn 1956 a nawr y tu hwnt i unrhyw atgyweirio,” meddai Paul Penlington.

“Mae ein plant yn cael eu dysgu mewn adeiladau gorlawn gyda bwcedi yn dal dŵr o’r to sy’n gollwng, a phlastar yn disgyn oddi ar y waliau.

“Does dim rhyfedd fod Ysgol Uwchradd Prestatyn gyda rhai o’r niferoedd uchaf o achosion o fwlio a’r niferoedd isaf o ran cyrhaeddiad, pan mae ein plant ni’n cael eu gwasgu – fel sardîns – i mewn i adeiladau hynafol ac annigonol.

“Dw i wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd am ysgol newydd ym Mhrestatyn a dylai Cyngor Sir Ddinbych geisio am gyllid i ddarparu hynny, sydd ond yn deg yn unol â threfi eraill.”

‘Anrheg Nadolig gorau’

“Fe gafodd cyllid ei addo rhai blynyddoedd yn ôl,” ychwanegodd y Cynghorydd Paul Penlington.

“Ond chafodd yr addewid hwnnw ddim ei gyflawni.

“Dw i’n galw ar bob un cynghorydd i dderbyn eu bod nhw wedi gadael plant Prestatyn i lawr ac i gymryd y cyfle olaf ym mis Rhagfyr i geisio am gyllid ar gyfer ysgol o’r 21ain ganrif i’n plant ni ffynnu ynddi.

“Byddai hynny’r anrheg Nadolig gorau y gallen nhw ei dderbyn, ac etifeddiaeth y byddai’r cynghorwyr yn falch ohoni.”