Mae arolwg cenedlaethol wedi datgelu bod tua hanner dynion Cymru wedi cefnu ar addysg yn 21 oed.

Yn ôl arbenigwyr dysgu o bell, Y Coleg Astudio Agored, nid yw 48% o ddynion Cymru wedi cwblhau unrhyw fath o addysg y tu hwnt i’r hyn gawson nhw yn 17-21 oed.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod 73% o ddynion yng Nghymru wedi cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn credu ei fod wedi bod yn rhwystr i’w gyrfaoedd.

Mae’r ymchwil yn rhan o ymgyrch sy’n annog mwy o ddynion i fuddsoddi yn eu haddysg i wella rhagolygon gyrfa ac iechyd meddwl.

Holwyd 2,000 o ddynion ar draws gwledydd Prydain, ble dywedodd 24% nad oedd ganddynt unrhyw ysgogiad na chymhelliant i astudio, tra dywedodd bron i hanner, 43%, nad oeddent yn credu bod angen cymwysterau ychwanegol i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Dywedodd llai fyth (26 y cant) o bobl 51-60 oed eu bod yn teimlo bod angen cymwysterau ychwanegol

“Pwysicach nag erioed i roi pob cyfle i chi’ch hun wella”

Dywedodd Samantha Rutter, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Astudio Agored, a gomisiynodd yr astudiaeth: “Nid yw’r ymchwil newydd hwn yn syndod gan mai dim ond 20% o’n dysgwyr ein hunain sy’n ddynion.

“Mae dynion yn teimlo llai o bwysau na menywod i roi pob mantais iddyn nhw eu hunain i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd gan nad yw’r ‘nenfwd gwydr’ yn effeithio arnynt.

“Mae dynion hefyd yn llai tebygol o gymryd seibiannau gyrfa ac felly’n teimlo nad oes angen addysg bellach arnynt.

“Ond yn y gweithle cystadleuol sydd ohoni, mae ein hymchwil yn dangos ei bod yn bwysicach nag erioed i roi pob cyfle i chi’ch hun wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfa – beth bynnag eich rhyw.”

Pobl ifanc

Yn gyferbyniol i’r to hŷn, mae’r to iau yn ystyried addysg yn bwysig er mwyn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Dengys y dystiolaeth fod 92% o bobl ifanc 18–21 yn credu bod angen cymwysterau ychwanegol i symud ymlaen ymhellach yn eich gyrfa, o’i gymharu â dim ond 38% o bobl 41-50 oed.

Gwnaeth yr arolwg hefyd amlygu bod pobl ifanc 18-21 oed wedi rhoi’r gorau i astudio ar ôl Lefel A, tra bod traean, 29%, wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd Meistr.