Mae Criccieth Creadigol, rhwydwaith o brosiectau cymunedol yn y dref, wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobr sy’n tynnu sylw at wytnwch a chreadigrwydd yn ystod y pandemig.

Yn ôl cadeirydd y Cyngor Tref, Sian Williams, mae’r prosiectau sydd ynghlwm â Chriccieth Creadigol yn bethau “cadarnhaol” yn y dref, ac er bod yr holl brosiectau ar agor i bobol o unrhyw oed, mae yna le i’w datblygu nhw i bobol ifanc hefyd.

Mae angen rhywbeth i bobol ifanc yng Nghriccieth, meddai Sian Williams wrth golwg360, ar ôl adroddiadau bod dros gant a hanner o blant a phobol ifanc o bob rhan o Wynedd a Môn wedi hel at ei gilydd ar y lan môr i yfed dros y penwythnos diwethaf.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at ysgolion yn rhybuddio bod parti mawr arall wedi’i drefnu yno heno (5 Tachwedd), ac mae Sian Williams yn gobeithio y bydd yr heddlu’n gallu gweithio gydag ysgolion, a’r ysgolion efo rhieni, i osgoi “rhywbeth mor ofnadwy” rhag digwydd eto.

“Trueni”

Bydd Cyngor Tref Criccieth yn cyfarfod dydd Mawrth nesaf, ac mae Sian Williams ar ddeall y bydd aelod o’r heddlu’n ymuno â nhw am sgwrs am y digwyddiad.

“Roedd o’n dipyn o sioc i weld y fideo neithiwr,” meddai.

“Mae rhywun yn cydymdeimlo efo’r sefyllfa mae’r plant ifanc, a phawb, wedi bod o dan yn y deunaw mis diwethaf.

“Oce, roedden nhw isio cael ryw get together bach, ond roedd hwnna wedi mynd yn rhywbeth arall doedd, nos Sadwrn diwethaf, ac mae hynny’n biti bod o wedi mynd mor ddrwg – ond eto dydi o ddim yn cymryd lot chwaith.

“Ar yr un pryd, sut mae rhywun yn rheoli rhywbeth fel yna? Mae o’n anodd.

“Mae angen rhywbeth, mae o’n drueni, mewn ffordd, bod ymddygiad fel yma’n digwydd.

“Fysa pethau’n gallu bod yn wahanol iawn iddyn nhw.”

Dydi Criccieth erioed wedi gweld digwyddiad fel hyn o’r blaen, meddai Sian Williams, ac mae’r Cyngor Tref, a’r clerc, yn gwneud gwaith “ffantastig” i ddod o hyd i grantiau er mwyn datblygu’r dref, a’i chadw hi’n lân a thaclus.

“Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi cael dwy ffair bob blwyddyn, yn ddiweddar yr Ŵyl Fwyd oedd yn cael ei threfnu yn rhan o Ŵyl Criccieth, ac mae yna gannoedd o bobol wedi bod yna, ond dim byd fel yma’n digwydd.

“Rydyn ni’n licio gweld pobol yn mwynhau’r dref, ond roedd hwnna’n rhywbeth arall nos Sadwrn.

“Mae gennym ni gymaint o bwysau efo’r gwasanaeth iechyd a’r heddlu, dydi rhywun ddim isio gweld rhywbeth fel yma’n digwydd. Dim jyst yng Nghriccieth, ond ymhob man.

“Mae o’n anodd. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bobol, ac mae hi jyst yn biti bod hyn wedi digwydd.”

Criccieth Creadigol

Fe wnaeth Cyngor Tref Criccieth ymateb i heriau’r pandemig drwy gynyddu eu gwaith yn ymgysylltu’n greadigol â’r gymuned, a hwyluso nifer o brosiectau sydd wedi cynnwys cannoedd o wirfoddolwyr, ac mae’r prosiectau a’r ymdrechion wedi derbyn clod drwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Clodwiw Bywydau Creadigol 2021,

Mae hi’n gystadleuaeth dros y Deyrnas Unedig, ac mae 31 o brosiectau wedi cyrraedd y rhestr fer, a bydd enillydd o Loegr, Iwerddon / Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, ac mae pob grŵp yn chwilio am bleidleisiau’r cyhoedd hefyd ar gyfer Gwobr Dewis y Bobol.

Mae’r prosiectau hyn wedi cynnwys nifer fawr o gymdeithasau gwirfoddol, yr ysgol gynradd, artistiaid lleol, a thalentau creadigol eraill.

“Maen nhw’n bethau sy’n ongoing, ac mae yna dipyn o waith yn mynd ymlaen yng Nghae Crwn lle maen nhw wedi datblygu allotments i’r gymuned ac mae hwnnw wedi bod yn boblogaidd iawn,” meddai Sian Williams.

“Maen nhw wedi gwneud gwaith da i ddatblygu’r tir lle maen nhw, ac mae’r ysgol yn cymryd rhan yn hwnnw hefyd.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn efo Criccieth yn ei Blodau, lle maen nhw’n cadw’r lle i edrych yn hardd ac yn groesawus i ymwelwyr.

“Mae Cyngor Tref Criccieth yn cefnogi’r pethau sy’n mynd ymlaen, maen nhw’n dda iawn fel yna.

“Rhywbeth fedra ni wella, rydyn ni’n trio gwneud hynny.”

Mae’r holl weithgareddau sy’n rhan o Criccieth Creadigol ar agor i bobol o bob oedran, “unrhyw un sy’n fodlon helpu a rhoi ychydig o amser”, meddai Sian Williams.

Mae yna le i ddatblygu’r gweithgareddau i bobol ifanc, meddai, “yn dibynnu os oes ganddyn nhw ddiddordeb”.

“Codi ysbryd”

Mae’r prosiectau hefyd yn cynnwys Pont yr Enfys, syniad gan Llyr Emery, 8 oed, o Dy’n Rhos i greu enfys o gerrig wedi’u peintio.

Ysbrydolodd ei syniad y gymuned, a daeth y gymuned ynghyd i gasglu cannoedd o gerrig, eu peintio mewn lliwiau llachar a chario negeseuon o ddiolch.

Cymeradwyodd cymdeithas Tai Adra, y Cyngor Tref a busnesau lleol, y fenter a gwneud cyfraniad ariannol fel bod posib adeiladu pont lachar dros yr afon o gerrig, a rhoddodd yr artist Ffion Gwyn fewnbwn i’r gwaith dylunio hefyd.

Mae’n symbol o garedigrwydd, dewrder a chefnogaeth , a dywedodd y Cynghorydd Alice Roberts ei bod hi’n wych gweld y gymuned yn dod ynghyd efo’r Cyngor.

“Mae hyn yn sicr wedi codi ysbryd pob un ohonom ar adeg o bryder gwirioneddol,” meddai Alice Roberts.

“Rwyf mor falch o fod yn rhan o’r fenter gymunedol hon sydd wedi gwneud pob un ohonom mor falch. Diolch i Llyr a ysbrydolodd hyn i gyd ac i bawb a wnaeth hyn yn bosibl.”

‘Angen edrych ar beth arall sydd ar gael i bobol ifanc ei wneud’ wedi’r helbul ar draeth Criccieth

Roedd plant deuddeg oed ymysg dros gant a hanner o bobol ifanc a fu yn yfed yn y dref y penwythnos diwethaf