Mae Gwasanaeth Busnes Cymru wedi helpu creu 25,000 o swyddi ledled Cymru ers 2016, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, gweithredu a datblygu busnesau.

Mae 10,000 o’r swyddi hynny wedi eu creu drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, sydd yn darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sydd am dyfu.

Dywedodd Gweinidog yr Economi bod ei gyhoeddiad yn amserol gydag Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang flynyddol yn cychwyn ddydd Llun nesaf, 8 Tachwedd.

Yn ôl Vaughan Gething mae’n “arbennig o falch bod ein Rhaglen Cyflymu Twf wedi gweithio gyda’n busnesau bach a chanolig mwyaf uchelgeisiol.

“Ond mae mwy i’r Rhaglen na’r twf mae’n ei ysgogi mewn cwmnïau; mae hefyd yn cael effaith ar unigolion ledled Cymru.”

“Cymorth amhrisiadwy”

Mae cwmni Thermal Compaction Group (TCG) yng Nghaerdydd wedi buddio o’r cynllun.

Mae TCG yn ‘gwmni gwyrdd’ sy’n cydweithio ym maes gwastraff cynaliadwy, gan gynnwys yr unig dechnoleg ar gyfer ailgylchu PPE (cyfarpar diogelu personol) yn y byd.

Mae eu cynnyrch yn cael ei ddefnyddio gan Lynges Prydain a system gofal iechyd yr Iseldiroedd, yn ogystal â chwsmeriaid rhyngwladol eraill.

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Thomas Davison-Sebry: “”A ninnau’n gwmni bach, mae wedi bod yn amhrisiadwy cael cymorth rheolwr a pherthynas gyda nifer o hyfforddwyr busnes profiadol”.

Mae cwmni Cake and Roll yng Nghwmbrân hefyd wedi buddio o’r cynllun newydd.

Mae Bethany Baber, sy’n 19 oed, wedi ei chyflogi’n ddiweddar, fel Cynrychiolydd Cwsmeriaid.

Fe ddywedodd cyd-sylfaenydd y cwmni, Marcin Panek, fod y cynllun wedi eu galluogi i gynnig swydd i Bethany, ac maen nhw’n hyderus “y bydd ein tîm yn parhau i dyfu dros y misoedd nesaf” o ganlyniad i gymorth y cynllun.