Mae cynnig i dalu o leiaf £15 i weithwyr y sector gofal yn Sir Fynwy wedi ei drechu, gyda chynghorwyr yn cynnal trafodaethau ar y We lle nad oedd hi’n glir pa aelodau oedd yn cymryd rhan yn y cyfarfod.

Fe gyflwynodd y Cynghorydd Armand Watts y cynnig mewn cyfarfod llawn o’r cyngor ddydd Iau, er mwyn cydnabod bod gweithwyr y sector gofal iechyd “wedi mynd tu hwnt i’r galw trwy gefnogi ein dinasyddion mwyaf bregus yn ystod y pandemig”.

Roedd ei gynnig yn galw am dalu £15 yr awr i holl weithwyr y cyngor sir yn y sector gofal er mwyn “cydnabod ei hymrwymiad” i’w gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Watts bod gweithwyr gofal yn cael “rhy ychydig o gyflog” o gymharu gyda sectorau eraill, a bod ei gynnig yn gyfle i gydnabod eu hymdrechion glew yn ystod y pandemig.

“Nid yw yn iawn… bod rhai o’r bobol bwysicaf… yn ystod y creisus covid… yn cael eu talu llai nag £11 yr awr.”

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Paul Pavia bod y cynnig yn “dod o le da”, ond bod y mater yn cael ei ystyried ar lefel genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox fod angen i unrhyw godiadau cyflog fynd drwy’r broses gyllido, ac y byddai gweithredu’r polisi heb wneud hynny yn “anghyfrifol”.

A dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland fod angen i’r cyngor fedru gwybod sut y byddai yn talu am y cynnydd mewn cyflogau, cyn gwneud dim arall.

Ac roedd yna beth penbleth ar derfyn y cyfarfod rhithiol, wrth i rai cynghorwyr ymddangos fel eu bod wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig, er eu bod wedi gadael y cyfarfod ynghynt.