Mae miloedd o ymgyrchwyr ifanc wedi gorymdeithio drwy strydoedd Glasgow i fynnu bod arweinwyr yn gweithredu ar newid hinsawdd yn COP26.
Fe gerddodd protestwyr o Barc Kelvingrove, heibio lleoliad yr uwchgynhadledd, i Sgwâr George, lle’r oedd siaradwyr, gan gynnwys Greta Thunberg a Vanessa Nakate, yn annerch y dorf.
Mae Thunberg wedi bod yn feirniadol iawn o’r uwchgynhadledd, gan honni mai dyma’r gynhadledd COP “mwyaf anghynhwysol erioed,” a’i labelu yn “bythefnos sy’n dathlu busnes fel arfer a blah blah blah.”
Mae’n debyg bod o leiaf 8,000 o bobol ifanc wedi cymryd rhan yn y brotest i gyd.
Bydd gorymdeithio pellach ddydd Sadwrn, gyda disgwyl y bydd degau ar filoedd o bobol yn cerdded y strydoedd yng Nglasgow.
Gorymdeithio
Roedd un protestiwr – Charlie O’Rourke, sy’n 14 oed o Glasgow – wedi methu’r ysgol i fod yn rhan o’r orymdaith.
Dywedodd fod angen i arweinwyr y byd yn COP26 “wrando ar y bobol.”
“Gwrandewch ar beth maen nhw eisiau ei ddweud,” meddai.
“Peidiwch â ddim ond mynd am yr elw. Gwrandewch ar beth mae’r blaned ei angen.”
Roedd protestiwr arall – Finlay Pringle, sydd hefyd yn 14 o Ucheldiroedd yr Alban – wedi teithio ar y trên i’r orymdaith.
“Os oes rhywbeth rydych chi’n ei garu ac eisiau ei amddiffyn, wedyn dylech chi wneud hynny,” meddai.
“Peidiwch â meddwl dwywaith am hynny.”