Bydd gorymdeithiau a ralïau’n cael eu cynnal gan Gynghrair COP26 ddydd Sadwrn (Tachwedd 6) er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd.

Fel rhan o Ddiwrnod Gweithredu Byd-eang yr Hinsawdd, bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghaergybi, Bangor, Llangollen, Abertawe a Chaerdydd.

Bydd nifer o siaradwyr yn rhan o’r digwyddiadau, gan gynnwys pobol ifanc, pobol o’r De Global, gwyddonwyr ac ymgyrchwyr.

Fe fydd yr ymgyrchwyr yn siarad am yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ecolegol, a’u heffeithiau lleol a byd-eang, gan egluro sut i gymryd rhan a pha gamau y gall pawb eu cymryd i wella pethau.

Nod y Diwrnod Gweithredu Byd-eang yw rhoi pwysau ar wleidyddion i wneud beth bynnag sy’n angenrheidiol i gadw cynhesu byd eang o fewn 1.5 gradd selsiws, a darparu cefnogaeth ddigonol i helpu’r gwledydd a chymuned fydd yn cael eu taro waethaf.

Bydd nifer o sefydliadau a grwpiau yn rhan o’r digwyddiad yng Nghymru, gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, Cymorth Cristnogol, Gwrthryfel Difodiant, ac undebau.

Bydd adloniant stryd a stondinau gwybodaeth, a bydd croeso i bawb ddod â’u baneri a’u placardiau i fynegi’u dyhead am fyd tecach a mwy diogel, meddai’r trefnwyr.

‘Rhy ofnadwy i’w hystyried’

Fe fydd y Diwrnod Gweithredu’n cael ei gynnal hanner ffordd trwy gynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow, lle mae arweinwyr gwleidyddol y byd yn cyfarfod i drefnu’r camau y maen nhw am eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Yn ôl Cynghrair COP26, mae angen iddyn nhw ymateb i ddisgrifiad Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd fel “Cod Coch i Ddynoliaeth”, ac mae angen “ymateb ar frys, a gweithredu’n ddigonol”.

“Rydym yn annog pawb sy’n pryderu am newid yn yr hinsawdd i ymuno â ni a mynegi’u teimladau,” meddai’r trefnwyr.

“Mae effeithiau newid afreolus yn yr hinsawdd bron yn rhy ofnadwy i’w hystyried, a’r bobol a fydd yn cael eu taro waethaf yw’r rhai sydd wedi gwneud y lleiaf i achosi’r broblem fel arfer.

“Yn sicr, gall unigolion helpu gyda’u dewisiadau, ond mae gwir angen i bob gwleidydd, sefydliad a chwmni gydnabod yr angen i weithredu ac ymateb gyda llawer mwy o frys.”

Lleoliadau

Caergybi – cyfarfod ger yr Amgueddfa Forwrol ar Ffordd y Traeth am 2yh.

Bangor – cyfarfod ar y pier ym Mangor am 1:30yh.

Llangollen – cerddwyr, beicwyr a rhwyfwyr i gyfarfod mewn gwahanol leoliadau am 1:30yh.

Caerdydd – cyfarfod am 12yh, lleoliad i’w gadarnhau.

Abertawe – cyfarfod ar Sgwâr y Castell am 12yh.

COP26: Mark Drakeford yn teithio ar y trên o Gaerdydd i Glasgow

Fe fydd prif weinidog Cymru ymhlith arweinwyr gwledydd y byd sy’n ymgynnull ar gyfer yr uwchgynhadledd newid hinsawdd