Mae pobol yn marw mewn ambiwlansys ac ystafelloedd aros ysbytai oherwydd bod adrannau brys yn orlawn, yn ôl llythyron gan feddygon sy’n poeni am y sefyllfa.
Wrth apelio ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae meddygon sy’n gweithio mewn adrannau brys yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn rhybuddio bod adrannau gorlawn yn golygu bod rhaid i rai cleifion aros hyd at 24 awr i gael eu hasesu.
Mae’r llythyron yn nodi bod staff yn cael eu camdrin a’u sarhau oherwydd gwasanaethau aneffeithiol, ac maen nhw’n rhybuddio rhag yr arfer “peryglus” o gadw cleifion ar droli mewn coridorau ac mewn ystafelloedd aros gorlawn yn ystod pandemig.
Mae meddygon yn sôn am farwolaeth claf dros yr haf ar ôl aros dwy awr mewn ambiwlans y tu allan i ysbyty cyn cael triniaeth – ond rhan yn unig o’r darlun yw hynny.
Y llythyron
Mae’r llythyron, a gafodd eu hysgrifennu ym mis Mehefin a mis Rhagfyr y llynedd, wedi’u gweld yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.
Mae un o’r llythyr yn dweud bod “ein harweinwyr meddygol a nyrsio wedi methu mynd i’r afael â phatrymau o ymddygiad sy’n chwalu effeithlonrwydd – sydd heb esblygu ers degawdau”.
Maen nhw’n dweud bod Covid-19 wedi ychwanegu at y broblem, ond fod y broblem eisoes yn bodoli cyn y pandemig, ac yn dilyn diwedd pum mlynedd o fesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fis Tachwedd y llynedd.
Gall mesurau arbennig gael eu cyflwyno pan fo angen cefnogaeth allanol ar fyrddau iechyd a phan nad yw safonau gofal cleifion yn ddigonol.
Mae un o’r llythyron yn nodi gorlenwi “i’r pwynt lle mae cyflwyno hyd yn oed yr agweddau mwyaf sylfaenol ar Feddyginiaeth Frys megis dadlwytho ambiwlansys yn gyflym iawn, triage, asesiadau ac archwiliadau cynnar, ac ymyrraeth amserol o ran sepsis, strôc, gofal y galon, trawma sylweddol ac adfywio yn cael eu peryglu”.
“Mae hyn yn achosi niwed i gleifion y mae modd ei nodi a marwolaethau yn ein hystafelloedd aros, mewn ambiwlansys ac allan yn y gymuned y mae modd eu priodoli yn rhannol ac yn sylweddol i oedi oherwydd gorlewni,” meddai.
“Mae’r digwyddiadau catastroffig hyn yn cael eu hadolygu’n unigol gan bob safle, a does gennym ni ddim tystiolaeth na sicrwydd fod gwersi’n cael eu dysgu ar draws yr economi iechyd ehangach.”
Gwarthus
Mae llythyr o fis Rhagfyr y llynedd yn dweud bod y bwrdd iechyd wedi cael o leiaf 28 o hysbysiadau rheoleiddio, sef ymyrraeth gan y crwner i wella diogelwch y cyhoedd.
Mae’r hysbysiadau’n tynnu sylw at orlenwi a “diffyg cynnydd ystyrlon yn hyn o beth gan y bwrdd iechyd”.
Mae meddygon yn honni bod gorlenwi adrannau brys yn effeithio’r cleifion mwyaf bregus, yn enwedig plant a’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, dementia neu anableddau dysgu.
Maen nhw’n dweud bod asesu cleifion mewn modd trugarog yn gofyn am ofod, amser a staff nad ydyn nhw’n rhuthro.
Yn ôl y llythyr, y rhai oedd mewn perygl oedd y rhai oedd wedi hunan-niweidio neu wedi dioddef trais yn y cartref.
Mae llythyr o fis Mehefin, sydd wedi’i gyfeirio at y prif weithredwr Jo Whitehead a’r cadeirydd Mark Polin, yn datgelu bod aros am 12 awr yn beth cyffredin a bod aros am 24 awr yn dod yn fwy cyffredin.
Ar ôl clywed am farwolaeth claf mewn ambiwlans, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, wedi galw am ymchwiliad.
“Mae’n hollol warthus,” meddai, “ond yn un o’r nifer o straeon dw i’n eu clywed.
“Dw i wedi cyrraedd pen fy nhennyn gyda’r bwrdd iechyd hwn.
“Rydyn ni wedi cael prif weithredwr ar ôl prif weithredwr. Mae pob un yn dod i mewn yn addo’r gwelliannau hyn.
“Dw i’n credu, mewn gwirionedd, mai rheolwyr uwch sydd ar fai.
“Mae angen ymchwiliad annibynnol arnom i’r ffaith nad yw’r bwrdd iechyd yn gweithio.
“Mae’r rheolwyr wedi bod yn addo datrys hyn.
“Dw i’n credu bod gormod o reolwyr a dim digon o adnoddau yn mynd i mewn i staff y rheng flaen.
“Dw i wedi bod yn cyfarfod â meddygon teulu ar draws yr etholaeth, ac maen nhw wedi cyrraedd pen eu tennyn.
“Maen nhw wedi digalonni cymaint â’r ffordd mae pethau.
“Maen nhw wedi’u gorweithio. Mae’n rhaid iddyn nhw lenwi bwlch rhai o fethiannau’r bwrdd iechyd.”
Ymateb gwleidyddol
“Mae’r llythyron syfrdanol hyn yn datgelu’r sefyllfa ofnadwy yn ein hadrannau brys ledled gogledd Cymru,” meddai Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin Clwyd.
“Mae’r amgylchfyd gwaith ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd yn amlwg yn annerbyniol, fel y mae’r perygl i gleifion sy’n cyrraedd ein hysbytai ac sydd angen gofal brys.
“Rhaid i arweinwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fynd i’r afael â’r heriau hyn i sicrhau bod gan gleifion a staff fynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.”
Ymateb y bwrdd iechyd
“Rwy’n deall y straen, y pwysau a’r llwyth gwaith mae ein staff yn eu hwynebu, ac mae angen i ni sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu cefnogi i wneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu,” meddai Dr Nick Lyons, cyfarwyddwr meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Fel yn achos y Gwasanaeth Iechyd cyfan, mae ein gwasanaethau dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, sy’n arwain at alw di-gynsail ar ein gwasanaethau brys.
“Mae yna heriau parhaus i ryddhau nifer o gleifion o’r ysbyty i lety neu wasanaethau gofal addas, sy’n effeithio’r llif drwy system gyfan yr ysbyty a’n gallu ni i ddod â chleifion i mewn a thrwy’r adran frys mewn modd amserol.
“Ein blaenoriaethau yw parhau i wella llif cleifion er mwyn rhyddhau capasiti ar gyfer derbyniadau o’r adrannau brys a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal gorau posib drwy gydol y pandemig a thros y gaeaf.
“Rydym yn gwella nifer y staff a’u sgiliau yn ein Hunedau Mân Anafiadau ac yn cynyddu argaeledd gofal cymunedol ar gyfer ein cleifion bregus ac oedrannus, yn ogystal â pharhau i weithio gyda’n partneriaid Awdurdod Lleol i geisio lleihau’r oedi wrth drosglwyddo gofal.
“Rydym yn gofyn i’r cyhoedd ein helpu ni; gallai cleifion nad oes angen triniaeth ysbyty brys lawn arnyn nhw ganfod y gallan nhw gael cyngor a gofal priodol gan wasanaethau eraill y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ein hunedau mân anafiadau a fferyllfeydd lleol.
“Ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr neu cysylltwch â NHS 111 am gyngor os nad ydych chi’n sicr ble i fynd.”