Mae’r cyn-Ysgrifennydd Dramor Jeremy Hunt yn dweud bod Iran yn “gyfundrefn hollol ffiaidd sy’n noddi brawychiaeth ar draws y Dwyrain Canol”.
Fodd bynnag, mae’n credu y dylai’r Deyrnas Unedig dalu eu dyled i’r wlad.
Yn ôl teulu Nazanin Zaghari-Ratcliffe, dywedodd awdurdodau Iran wrthyn nhw ei bod hi’n cael ei chadw yn y ddalfa oherwydd methiant y Deyrnas Unedig i dalu dyled o £400m.
Wrth siarad â Rhaglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd Jeremy Hunt fod gan y Deyrnas Unedig “gytundebau gyda gwledydd ledled y byd, rhai ohonynt yn fwy cyfeillgar, rhai ohonynt yn fwy cas, ac rydym yn wlad sy’n talu ein dyledion”.
“Pe bai hyn yn arian pridwerth, byddwn yn dweud na ddylem ei dalu, ac rwyf wedi dweud hynny wrth Richard, er mor greulon mae hynny’n swnio, oherwydd eich bod yn annog mwy o ymddygiad felly,” meddai.
“Ond nid arian pridwerth yw hwn. Dyled yw hon. Mae llys rhyngwladol wedi dweud hynny. Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn wedi dweud hynny.”
‘Heriau’
Yn ôl Jeremy Hunt, mae yno “heriau ymarferol” i dalu’r arian i Iran.
“Mae yna broblemau ymarferol gyda sancsiynau, ond mae’r rheini’n bethau y gallwch chi fynd o gwmpas weithiau, os oeddech chi, er enghraifft, yn rhoi gwerth £400m o feddyginiaethau neu rywbeth felly,” meddai.
“Mae ystyriaethau gwleidyddol hefyd megis ymateb gwledydd fel yr Unol Daleithiau, ond o ystyried bod yr Arlywydd Obama wedi talu dyledion America i Iran yn yr un sefyllfa yn union, rwy’n credu ei bod yn annhebygol y byddem yn cael yr un gwrthwynebiadau gan yr Arlywydd Biden nag y gallem fod wedi’u cael gan yr Arlywydd Trump.”
Dywedodd Richard Ratcliffe, sydd ar ei bedwerydd diwrnod ar bymtheg o streic newyn y tu allan i’r Swyddfa Dramor yn Llundain, ei fod yn “gam ymlaen” fod Iran yn dod i’r brifddinas.
Wrth siarad cyn i Bagheri Kani, dirprwy Weinidog Tramor Iran, gyfarfod â swyddogion y Swyddfa Dramor, dywedodd Richard Ratcliffe wrth Raglen ‘Today’ BBC Radio 4 fod “hynny’n gam ymlaen, mewn gwirionedd”.
“Rwy’n credu bod blynyddoedd lawer ers i weinidog Iran ddod yma,” meddai.
Boris Johnson wedi addo talu’r ddyled
Pan gafodd Richard Ratcliffe ei holi a ddylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig dalu’r ddyled, dywedodd y “gwnaeth Boris Johnson addo y byddai’n talu’r ddyled pan oedd yn Ysgrifennydd Tramor”.
“Fe wnaeth o hefyd addo gwneud popeth yn ei bŵer i sicrhau bod Nazanin yn cael dychwelyd adref pan nes i siarad gydag efo cwpwl o flynyddoedd yn ôl,” meddai.
“Dw i wedi cael trafodaethau clir gyda’r Ysgrifennydd Tramor, dw i wedi cael llythyrau gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn, felly dw i’n pendroni pam nad yw hyn wedi cael ei ddatrys.
“Rydym wedi holi Liz Truss, yr Ysgrifennydd Tramor, ond mae hi’n gwrthod dweud wrthym.”