Mae adroddiad newydd yn amlinellu’r her sy’n wynebu’r Gymraeg ar Ynys Môn.

Er ei bod yn cael ei chydnabod yn hir fel cadarnle’r Gymraeg, yn ail y tu ôl i Wynedd yn unig, bu patrwm o ddirywiad cyffredinol ers y 1950au pan oedd dros 80% o drigolion yr ynys yn siarad Cymraeg.

Ond gyda ffigurau diweddaraf cyfrifiad 2011 yn dangos mai dim ond 57.2% o drigolion yr ynys oedd yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, mae yna ofnau y bydd mewnfudiad o’r dwyrain – wedi’i hybu ymhellach gan y pandemig – yn ogystal â methiant gan rai i basio’r iaith ymlaen yn rhoi darlun gwannach fyth pan fydd y canlyniadau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi.

Mae’r adroddiad, a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaeth ac Adfywio, yn cynnig bod yr awdurdod yn mabwysiadu Strategaeth Hybu’r Gymraeg newydd i gymryd lle ei ragflaenydd sydd bellach wedi dod i ben.

Ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2026, mae’r papur yn amlinellu sut mae’r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo’r iaith a hwyluso ei defnydd ehangach ar Ynys Môn, gyda tharged o gynyddu neu o leiaf gynnal ei gryfder presennol.

Mae dros 40% o’r boblogaeth wedi’u geni y tu allan i Gymru mewn llawer o ardaloedd arfordirol yn Ynys Môn, a chafodd hyn ei ddwysáu gan 10% o gyfanswm y stoc dai sydd bellach yn ail gartrefi.

Ond yn ogystal â mewnfudiad, canfu adroddiad diweddar gan Fenter Iaith Môn fod bron i chwarter aelwydydd Ynys Môn lle mae’r ddau riant yn gallu siarad Cymraeg yn methu â’i throsglwyddo i’w plant cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol.

Canfu hefyd fod 78% o ynyswyr a gafodd eu geni yng Nghymru yn gallu siarad yr iaith, gydag 11% arall yn gallu ei deall.

Mae hyn yn amrywio o 58.8% o gwmpas Caergybi i 90.4% yng nghanolbarth Ynys Môn.

‘Anochel’

“Er gwaethaf y gwaith caled sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r strategaeth hon, byddai’n rhaid peidio â chydnabod effaith pandemig y coronafeirws ar ein hymdrechion,” meddai Ieuan Williams, dirprwy arweinydd Cyngor Môn.

“Mae’n ymddangos bron yn anochel y bydd demograffeg rhai o’n cymunedau yn cael ei effeithio o ganlyniad i’r argyfwng.

“Mae hyn yn debygol o ganlyniad i ffyniant y farchnad dai yn 2020 a 2021 a gweithio o bell gan ganiatáu adleoli o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig ac arfordirol.

“Mae mewnfudo wedi bod yn her hanesyddol i ffyniant y Gymraeg ar Ynys Môn ac mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer newid pellach a dyfnach yn neinameg ieithyddol rhai cymunedau.

“Roedd cyfyngiadau pandemig hefyd yn effeithio ar gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ddefnyddio’r iaith gyda’i gilydd yn gymdeithasol ac yn y gwaith.

“Rydym yn gobeithio gweld gweithgarwch cymdeithasol Cymraeg yn ailddechrau gyda brwdfrydedd o’r newydd wrth i ni ddod allan o’r cyfnod heriol hwn.”

‘Heriau gwirioneddol’

Er bod canran y siaradwyr wedi gostwng yn ddramatig – yn unol â chynnydd mawr yn y boblogaeth – mae niferoedd y bobol sy’n rhugl yn y Gymraeg wedi aros yn gyson.

Pan gafodd y strategaeth flaenorol ei sefydlu yn 2016, roedd y ffactorau a oedd yn cael eu beio am ddegawdau o ddirywiad yn cynnwys economi wan a marchnad dai ansefydlog.

Arweiniodd hyn at “heriau gwirioneddol” o ran cadw pobol ifanc a theuluoedd ar yr ynys.

Gan dargedu dull gweithredu tair agwedd, bu ymgais i hybu’r iaith ymhlith plant a theuluoedd, gweithlu a gwasanaethau’r Cyngor, yn ogystal â’i defnydd o fewn y gymuned.

Ond gyda’r pandemig wedi arwain at fwy o bobol yn prynu ail gartrefi a mewnfudiad yn gyffredinol – yn enwedig mewn cymunedau arfordirol sy’n denu twristiaid, lle mae’r iaith eisoes yn tueddu i gael ei chlywed yn llai aml – cafodd pryderon eu mynegi nad oedd fawr ddim y gallai’r awdurdod ei wneud i wrthsefyll newidiadau demograffig mor radical mewn cyfnod mor fyr.

Ac yntau’n byw yng nghymuned arfordirol Benllech, ychwanegodd Ieuan Williams fod y “pandemig wedi caniatáu i bobol weithio gartref”.

“Felly cyn i lawer o bobol benderfynu ymddeol i Ynys Môn, mae pobol nawr yn symud yma i weithio gartref hefyd,” meddai.

“Roedd yr asiantau tai yn dweud y llynedd bod tai yn cael eu prynu o fewn dim o fynd ar y farchnad.”

‘Newid mawr’

Dywedodd y cynghorydd Vaughan Hughes: “Mae pobol sy’n astudio ieithoedd yn dweud wrthym fod angen màs critigol arnoch mewn cymuned, ac unwaith mae llai na 70% yn siarad yr iaith yna rydych chi’n gweld newid mawr.

“A gan fod y niferoedd yma, fel ar draws Cymru, yn llai na 70%, mae’n anodd gweld pa strategaeth all wrthdroi hyn.

“Oes mae yna obaith bob amser ond gadewch i ni beidio dallu ein hunain i’r ffaith bod y màs critigol yn gweithio yn erbyn y Gymraeg fel iaith gymunedol.

“Fydd yr iaith ddim yn marw ond a fydd hi’n byw ymlaen fel iaith gymunedol? Dyna ein pryder mawr.”

Peth arall sy’n achosi pryder yw’r ffaith fod ffigyrau yn dangos mai dim ond traean o ddisgyblion yr ynys oedd yn derbyn eu haddysg yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymraeg oedd y prif gyfrwng addysgu ar gyfer dim ond 34.8% (1,215) o ddisgyblion uwchradd, gyda’r Gymraeg yn rhan o’r addysg ar gyfer 39.2% (1,370), a Saesneg fel cyfrwng addysgu ar gyfer 24.6% (860) o ddisgyblion.

Llwyddiannau

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cydnabod fod elfennau o’r cynllun blaenorol wedi bod yn llwyddiant.

Roedd y rhain yn cynnwys:

  • 250 o rieni yn nodi eu bod yn gweithio ar newid eu harferion iaith yn y cartref, gyda Menter Iaith Môn yn cynnal 500 o sgyrsiau gyda rhieni am fanteision dwyieithrwydd i’w plant.
  • Aelodaeth uchaf erioed yr Urdd (3,000 o aelodau) yn dilyn ymgyrch cyfryngau cymdeithasol lwyddiannus, gydag ‘aelwyd’ newydd wedi’i sefydlu yn Ysgol Uwchradd Caergybi.
  • Canfu Estyn fod bron pob ysgol a fu’n destun arolwg wedi gwneud cynnydd da o ran hyrwyddo’r Gymraeg, gan flaenoriaethu gweithredu fframwaith Siarter Iaith hefyd a sicrhau bod disgyblion cynradd o gyfnod sylfaen i gyfnod allweddol tri yn cael asesiad Cymraeg iaith gyntaf.
  • Rhaglen i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth a rhwydwaith y Cyngor o ‘hyrwyddwyr iaith’.
  • Pecynnau croeso sy’n cynnwys gwybodaeth am y Gymraeg a gafodd eu comisiynu, gyda Menter Iaith Môn i’w dosbarthu i gynulleidfa wedi’i thargedu.

O ganlyniad, bydd cynllun 2021-2026 sydd newydd ei fabwysiadu yn edrych ar wyrdroi’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr ar yr ynys.

Bydd y cynllun hwn yn cael ei ailystyried ymhellach unwaith y bydd ffigurau diweddaraf y Cyfrifiad wedi’u cyhoeddi yn 2022 a 2023.

Mae’r adroddiad yn bwriadu adeiladu ar lwyddiannau’r un blaenorol, a hefyd:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o fanteision trosglwyddo’r Gymraeg drwy weithio gyda Menter Iaith Môn a darparu mwy o gyfleoedd i blant iau ddysgu’r iaith.
  • Estyn allan at bobol, datblygwyr, busnesau a chymunedau sy’n llai cyfarwydd â’r Gymraeg, gan sicrhau eu bod yn deall amlygrwydd yr iaith yn niwylliant a bywyd yr ynys tra hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobol ddysgu.
  • Gwneud Ynys Môn yn lle deniadol i siaradwyr Cymraeg fyw a gweithio, gan ddenu’r rhai sydd wedi gadael yr ynys yn ôl a sicrhau bod swyddi da a chyfleoedd cymdeithasol a safonau uchel o addysg Gymraeg ar gael.

‘Angen bod yn realistig’

“Er bod y data’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi aros yn gymharol sefydlog ers 1961, wrth i boblogaeth yr ardal gynyddu o flwyddyn i flwyddyn mae nifer y siaradwyr fel canran o’r boblogaeth wedi gostwng yn gyson,” meddai’r adroddiad.

“Mae angen i ni fod yn realistig a pharatoi ar gyfer newid dyfnach i ddemograffeg yr ynys o ganlyniad i effeithiau pandemig COVID-19.

“Ymhlith y ffactorau posibl mae ffyniant y farchnad dai, mwy o fuddsoddiad mewn ail gartrefi a chartrefi gwyliau, gweithio o bell sy’n caniatáu adleoli o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig ac arfordirol.

“Bydd gweithredu ein hail strategaeth hyrwyddo rhwng 2021 a 2026 yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r heriau uchod.

“Rydym yn bwriadu adeiladu ar sylfeini ein strategaeth gyntaf a byddwn yn cadw at ein targed yn fwriadol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein hardal.

“Yn dilyn dadansoddiad llawn o ganlyniadau Cyfrifiad 2021, byddwn yn ailedrych ar y strategaeth i asesu a yw hi’n briodol symud ymlaen a sicrhau bod ein cynlluniau’n ymateb yn ddigonol i unrhyw newidiadau i ddynameg ieithyddol yr ynys.”