Fe wnaeth twf economi’r Deyrnas Unedig arafu’n sylweddol rhwng Gorffennaf a Medi eleni yn sgil problemau’r gadwyn gyflenwi a’u heffaith ar yr adferiad wedi’r pandemig.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, tyfodd yr economi 1.3% yn ystod y tri mis, i lawr o 5.5% yn ystod y tri mis blaenorol.

Roedd mwy o dwf erbyn mis Medi (0.6%), a hynny’n fwy na’r disgwyl.

Ond roedd y perfformiad yn waeth na’r disgwyl ym mis Gorffennaf ac Awst.

Fe grebachodd yr economi 0.2% ym mis Gorffennaf er gwaetha’r rhagolygon o 0.1%, ac roedd twf o 0.2% ym mis Awst, ac nid y 0.4% oedd wedi cael ei ddarogan.

Mae gwerthiant ceir a’r diwydiant adeiladu wedi cael eu taro’n benodol, a hynny o ganlyniad i brinder cydrannau a deunyddiau.

Erbyn hyn, mae’r economi 2.1% y tu ôl i’r rhagolygon cyn dechrau’r pandemig.

Fis wrth fis, roedd yr economi ym mis Medi 0.6% yn is na’r lefelau cyn y pandemig fis Chwefror y llynedd.

Roedd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) ym mis Medi wedi cael hwb yn sgil y sector iechyd, gyda theithiau i weld y meddyg yn cynyddu ar ddechrau tymor y ffilw, ac wrth i weithwyr ddychwelyd i’w swyddfeydd a disgyblion i’r ysgol.