Fydd gweithwyr y DVLA yn Abertawe ddim yn streicio gan nad oedd digon ohonyn nhw wedi bwrw eu pleidlais.

Pleidleisiodd pedwar ym mhob pump o weithwyr o blaid cynnal streic, ond dim ond 40% o’r gweithlu oedd wedi pleidleisio, ac mae angen 50% er mwyn gweithredu ar sail pleidlais.

Mae aelodau undeb y PCS wedi bod yn mynegi pryder ers tro am amodau gwaith yng nghanolfan y DVLA yn Abertawe yn dilyn y pandemig Covid-19.

Y bwriad nawr yw cynnal trafodaethau brys â phenaethiaid uwch i drafod y pryderon sydd gan weithwyr o hyd.

Mae undeb y PCS yn dweud bod y sefyllfa’n golygu “rhwystredigaeth” i’r rhai oedd wedi pleidleisio o blaid cynnal streic eu bod nhw wedi’u “hamddifadu o’u hawliau democrataidd” o ganlyniad i “rai o’r cyfreithiau gwrth-undebol gormesol yng ngorllewin Ewrop”.

Croesawu’r canlyniad

Mae’r DVLA wedi croesawu canlyniad y bleidlais.

“Mae hyn yn amlwg yn cydnabod fod ein gweithle mor ddiogel â phosib ac yn osgoi rhagor o darfu diangen i filiynau o bobol,” meddai llefarydd.

“Ein ffocws ni, a ffocws holl staff y DVLA, o hyd yw prosesu ceisiadau cyn gynted â phosib a helpu modurwyr ledled y wlad i barhau ar eu teithiau.

“Aeth llai na hanner aelodau’r PCS i bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol, ac mae hynny ond yn 17% o holl weithlu’r DVLA.

“Wnaeth y mwyafrif llethol o staff, dros 80% ohonyn nhw, ddim cefnogi rhagor o streiciau yn y DVLA.”

Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Anghydfod diogelwch staff y DVLA yn parhau

Undeb yn holi barn aelodau am ddwysáu gweithredu diwydiannol
Mynedfa adeilad y DVLA yn Abertawe

Staff y DVLA i bleidleisio dros gynnal rhagor o streiciau

Daw yn sgil anghydfod hirdymor ynghylch diogelwch sy’n gysylltiedig â Covid-19