Bydd Osian Jones yn dechrau beicio bron i 200 milltir heddiw (dydd Iau, Tachwedd 11), i ddanfon llythyrau i Senedd Cymru yn galw am weithredu ar yr argyfwng tai.
Ar hyd ei daith, bydd cefnogwyr yn rhoi llythyrau i Osian Jones yn nodi eu pryderon am ddyfodol eu cymunedau, a bydd yn cyflwyno’r negeseuon i Lywodraeth Cymru mewn rali yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 13).
Er bod y broblem gydag ail dai yn un “hynod leol”, y syniad yw “mynd â’r broblem i le mae’r pŵer a’r bobol sy’n gwneud gwahaniaeth”, meddai’r cyfreithiwr a’r ymgyrchydd Rhys Tudur wrth golwg360.
Does dim gweithredu wedi bod ar reoli tai haf ers dechrau’r ymgyrch, nac ers sefydlu’r Cynulliad, meddai Rhys Tudur, a fydd yn siarad yn y rali, sydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas yr Iaith.
‘Cyfyngiadau’
Byddai Rhys Tudur yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn gosod cyfyngiadau tebyg i’r rhai yn y Swistir a Denmarc, lle mae pobol sydd ddim yn lleol yn cael eu hatal rhag prynu ail dŷ.
“Fyddai pobol yn gobeithio y byddai hunanlywodraeth yn caniatáu i ni allu rheoli’r sefyllfa’n well, ond does yna ddim byd felly wedi cael ei wneud,” meddai Rhys Tudur.
“Fyswn i’n licio gweld nhw’n gosod cap ar dai haf ym mhob cymuned, a chodi treth tir ar bobol sy’n trio prynu tai haf – addasu’r system dreth i wneud hynny.
“Mae’r rheiny i gyd oddi fewn pwerau Llywodraeth Cymru, a fysa chdi’n gobeithio y bydden nhw’n gwneud eu gorau i warchod nid yn unig cymunedau, ond y diwylliant sy’n cael ei wanychu yn sgil pryniannau di-ben-draw ail dai.”
Mae’r llythyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio eu pwerau er mwyn sicrhau “cyfiawnder i’n cymunedau”.
“[Mae] sefyllfa lle mae rhai yn gallu fforddio prynu ail neu drydydd tŷ, tra bod eraill sy’n dymuno byw mewn cymunedau Cymraeg yn methu prynu na rhentu cartref, yn annerbyniol… Ers degawd mae gan ein Senedd rym i ddeddfu,” meddai’r llythyr gan Gymdeithas yr Iaith
“Gofynnwn i chwi ddefnyddio’r grym hwnnw o’r diwedd i sicrhau cyfiawnder i’n cymunedau – yn hytrach nag ymgyfyngu i fân ddiwygiadau o drefn sy’n anghyfiawn yn ei hanfod.”
‘Problem hynod leol’
Mae’r broblem gydag ail dai yn “broblem hynod leol”, meddai Rhys Tudur, ac nid yn un sy’n bodoli drwy Gymru i gyd – er bod problemau gyda fforddiadwyedd tai yn rhai sy’n gyffredin dros y wlad, a thu hwnt.
“Mae gen ti rai siroedd sydd ddim efo unrhyw fath o dai haf o gwbl – fatha Blaenau Gwent er enghraifft, yn ôl ystadegau does yna ddim un yn bodoli yno, Torfaen yr un fath.
“Mae o hyd yn oed yn lleol iawn o fewn siroedd fatha Gwynedd, dim ond ryw ychydig o dan 1% o’r stoc dai sy’n ail dai yng Nghaernarfon, ond wedyn mae gen ti yn Abersoch rywbeth yn nes at 60%.
“Mae gen ti fwy o ail dai mewn llefydd fatha Nefyn na sydd gen ti mewn sawl sir efo’i gilydd, fatha Casnewydd, Sir Fynwy, Blaenau Gwent. Oes mae yna broblem efo fforddiadwyedd tai, ond mae hwnnw’n broblem fyd-eang.
“Be rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu efo Hawl i Fyw Adra ydi’r broblem ein bod ni methu byw yn ein cymunedau, a bod yna ddiffyg rheoliadau llwyr ar ail dai sy’n golygu bod cymunedau’n marw fel rydyn ni wedi gweld yng Nghwm-yr-eglwys.
“Gan y Llywodraeth mae’r pŵer i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, mae gan y Cyngor Sir y pŵer i daclo tai sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd a sicrhau eu bod nhw’n mynd yn lleol – dyna le mae eu grymoedd nhw yn stopio, mewn ffordd.
“O ran sicrhau bod y stoc dai bresennol ni’n aros yn lleol, y Llywodraeth sydd efo’r grym i allu gwneud hynny.”
‘Cymunedau marw’
Tai haf ydi’r “bygythiad mawr” mewn llefydd fel Dwyfor, meddai Rhys Tudur, tra mai pobol yn mudo a phrynu tai sy’n achosi cynnydd mewn prisiau mewn llefydd megis Caernarfon, neu ardaloedd megis Tre-biwt a Grangetown yng Nghaerdydd.
“Y broblem rydyn ni’n ei chael ydi eu bod nhw’n cael eu prynu fel ail dai, maen nhw’n troi’n ghost towns, ac maen nhw’n gymunedau marw wedyn,” meddai Rhys Tudur.
“Mae ein problem ni, a’r end results, yn gwbl wahanol, mae pentrefi’n marw, yr iaith Gymraeg yn diflannu efo’r diwylliant, a dim bywyd yn y lle bellach.
“Dydi’r un fath ddim yn digwydd hyd a lled Cymru, dydi’r broblem ail dai ddim yn digwydd mewn sawl ardal. Roedd Simon Brooks yn mynegi hynny ei hun yn ei adroddiad, faint o broblem leol ydi hi.”
Yn Nwyfor, mae tua 2,500 o ail dai, y dwysaf drwy Gymru, ond o fewn yr ardal honno mae yna gymunedau gyda chanrannau mor isel â thua 3% a chymunedau, fel Morfa Nefyn, lle mae 30-40% o’r stoc yn ail dai.
“Mae’r broblem yn ffocysu ar lefydd deniadol i dwristiaid, a llefydd arfordirol gan fwyaf.”
Mae’r “bwgan cyfalafiaeth” yma’n beth arall, meddai Rhys Tudur, gan ddweud na fydd hi’n bosib cael gwared ar gyfalafiaeth dros nos.
“Rywsut ti’n rhoi llai o bwysau ar y llywodraeth i wneud rhywbeth wedyn achos ti ddim yn ffocysu’r frwydr, a’r ffocws gen i, wedi bod, ydi ail dai a thai haf yn benodol.”
‘Dan fygythiad’
Ar hyd ei ffordd i Gaerdydd, bydd Osian Jones yn galw mewn nifer o gymunedau, gan gynnwys Dolgellau, Aberystwyth, Llanymddyfri a Merthyr, lle bydd cynghorwyr, Aelodau’r Senedd, ac aelodaI a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn ei gyfarfod.
“Rydyn ni wedi cynnal rali yng Nghapel Celyn, pentref a gollwyd ddegawdau yn ôl, a rali arall yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro, ardal sydd dan fygythiad oherwydd ail dai a thai gwyliau ers blynyddoedd; felly bydd y rali yma ar risiau’r Senedd yn mynd â’r neges yn syth at y Llywodraeth,” meddai Osian Jones.
“A bydda i’n dod â neges glir cymunedau ar draws Cymru sydd am weld y Llywodraeth yn gweithredu.”