Ni ddylai tai gael eu gosod i dwristiaid, a dylid cael adeiladau penodol ar eu cyfer yn ôl gweithiwr cymunedol.

Wrth siarad gyda golwg360 cyn y bydd yn perfformio gyda’i fand Twmffat yn Rali Hawl i Fyw Adra a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd dros y penwythnos, dywedodd Ceri Cunnington bod angen edrych ar dai a thwristiaeth ar y cyd.

Dywedodd Ceri, o Flaenau Ffestiniog, hefyd fod angen stopio’r cynnydd mewn Airbnbs gan ychwanegu fod yna ffyrdd o ymgysylltu’n gadarnhaol gyda’r sector twristiaeth i gydweithio er budd cymunedau.

Trwy ei waith gyda Chwmni Bro Ffestiniog a Dolan, sy’n rwydwaith bartneriaethol rhwng Ffestiniog, Ogwen a Nantlle gyda’r bwriad o arallgyfeirio buddiannau’r economi sylfaenol i wasanaethu cymunedau, mae Ceri wedi dod yn gyfarwydd â phroblemau gydag Airbnb.

Tai gwyliau

“Rydyn ni yn gweithio ar draws ardaloedd chwarelyddol y gogledd ar ffyrdd o gymunedoli tai gwyliau, rydyn ni wedi bod yn ymwneud â thwristiaeth gynaliadwy ers dipyn ac yn gweld problem gydag Airbnb’s ac ati,” meddai.

“Ond does yna ddim ffordd inni ddefnyddio arian twristiaeth. Mae twristiaeth efo ni i aros os yda ni’n licio fo neu beidio, ond mae’n rhaid i ni reoli fo ac mae’n rhaid i ni wneud iddo weithio er lles ein cymunedau.

“Be rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn Antur Stiniog a Blaenau Ffestiniog ydi defnyddio elw mae twristiaid yn ei gynhyrchu i berchnogi adeiladu a thai o fewn y gymuned.

“Yn hytrach nag edrych ar dai a thwristiaeth fel dau beth hollol wahanol, be am ddefnyddio’r dreth ail dai i adeiladu tai ar gyfer pobol leol?

“Cartref ydi tŷ, dim Airbnb, mae’n iawn os oes gen ti ystafell sbâr, mae cysyniad Airbnb yn brilliant, ond pan ti’n gwerthu cartref neu dŷ, mae hi isio edrych ar be ydi twristiaeth . . . dyla bod tai ddim yn cael eu gosod i dwristiaid, dyla bod yna adeiladau penodol ar gyfer twristiaid.

Rheoleiddio

“Rhaid i ni fod yn ddewr yn ein deddfwriaeth dw i’n meddwl, a’r ffordd rydyn ni’n rheoleiddio twristiaeth.”

Dywedodd Ceri Cunnington ei fod wedi bod yn trafod y posibilrwydd o ddod â pherchnogion Airbnbs yr ardal ynghyd, a’u bod nhw’n cyfrannu cyfran fach o’u helw tuag at achos lleol, neu fod cynnyrch lleol yn cael ei ddanfon i’r tai.

“Dw i’n siŵr os bysen ni’n engageio yn iach efo’r sector dwristiaeth neu’r sector Airbnbs y bydda na ffyrdd o gydweithio, fel ein bod ni ddim ar wahân.

“Mae isio stopio’r twf yma mewn Airbnbs, does yna ddim os am hynny, neu mae hi am fod rhy hwyr.

“Ond mae yna ffyrdd o’i chwmpas hi, dw i ddim yn anobeithiol.

“Mae isio ni hoelio be mae cymuned yn gallu ei wneud, be mae awdurdod lleol yn gallu ei wneud, a be ydi rôl llywodraeth yn hyn o beth, a hoelio’r berthynas yna.”

“Trobwynt”

“Mae rhywbeth yn gorfod newid”, meddai Ceri wrth drafod tai haf, a’r ffaith bod cantorion yn canu am yr un problemau ers degawdau.

“Be sy’n dorcalonnus amdano fo, ac o weithio o fewn maes datblygu cymunedol a gweithio o fewn y gymuned ers blynyddoedd . . .  roeddwn i’n siarad efo Dewi Pws yn y digwyddiad ym Mhen Llŷn ac roedden nhw’n canu am dai haf yn ôl yn y 70au – mae rhywbeth yn gorfod newid.”

Canu fydd Ceri, yn y rali tu allan i’r Senedd, ond mae’n dweud bod eu caneuon “fwy fel rantio a gweiddi”.

“Mae Twmffat yn . . . dw i ddim yn licio dweud gwleidyddol, achos hyd yn oed pan ti ddim yn canu am wleidyddiaeth ti’n wleidyddol dw i’n meddwl, gwneud dim byd ydi’r math gwaethaf o wleidyddiaeth . . . ond mae lot o’n caneuon ni am [y ffaith] nad yw Cymru ar werth, ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn y gorffennol, mae yna ganeuon am y Senedd, a diffyg, ella, gweithgarwch yn y Senedd o ran deddfu a ballu, ac yr hyder i ddeddfu.

Trobwynt

“Mae hwn yn mynd i fod yn drobwynt yn hanes Cymru dw i’n meddwl, a gweld gwerth y Senedd i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau Cymru.

“Does yna ddim pwynt i ni gael Senedd os ydi o jyst yn mynd i fod yn efelychu San Steffan.

“Os yda ni’n mynd i gael Senedd, neu annibyniaeth hyd yn oed, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos eu bod nhw’n ddigon hyderus i wneud pethau gwahanol.”

Bydd Ali Yassine, Meri Huws, Rhys Tudur, a Mabli Siriol yn annerch tu allan i’r Senedd, gyda’r digwyddiad yn dechrau am 1:30yh brynhawn Sadwrn (13 Tachwedd).

Yn ogystal â pherfformiad gan Twmffat, bydd Bwncath, Dyfrig Topper, Eadyth a DJ Kiernan yn diddanu’r dorf.

Bydd Twmffat yn canu yn nhafarn The Flora yn Cathays yng Nghaerdydd nos Sadwrn ar ôl y rali hefyd.

Mae golwg360 wedi gofyn i Airbnb am ymateb.