Mae arweinwyr y byd wedi cael eu hannog i helpu negodwyr i gwblhau cytundeb hinsawdd, gyda llai na 48 awr o drafodaethau yn weddill.
Aeth Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, ar ymweliad byr yn ôl i’r uwchgynhadledd yn Glasgow, lle mae gwledydd dan bwysau i gynyddu’r camau i leihau cynhesu byd-eang.
Roedd Boris Johnson, a aeth yn ôl i Lundain ar ôl ei ymweliad, yn wynebu galwadau gan Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, a llefarydd busnes yr wrthblaid yn San Steffan, Ed Miliband, i aros am ddyddiau olaf y trafodaethau i wthio am ganlyniad uchelgeisiol.
Daeth ei ymweliad ar ôl i ddirprwyaeth y Deyrnas Unedig yn COP26 gyhoeddi drafft cyntaf o gytundeb y gellid ei daro yn Glasgow, a oedd yn annog gwledydd i gyflwyno cynlluniau mwy uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau hyd at 2030 yn y flwyddyn nesaf.
Mae’r drafft hefyd yn galw am gynlluniau “sero net” hirdymor, yn ogystal â gweithredu ar gyllid yr hinsawdd, gan helpu gwledydd tlotach i addasu i effeithiau cynhesu byd-eang ac i fynd i’r afael â’r golled a’r difrod y byddan nhw’n ei ddioddef.
Ar ben hynny, mae’n galw am gyflymu’r broses o roi’r gorau i ddefnyddio glo a chymorthdaliadau ar gyfer tanwydd ffosil.
Cadw’r nod o fewn cyrraedd
Yn ôl gwyddonwyr mae angen torri allyriadau byd-eang 45% erbyn 2030 i gyfyngu twf y tymheredd byd-eang i 1.5C.
Fodd bynnag, mae cynlluniau presennol ar gyfer y degawd hwn yn gadael y byd ymhell oddi ar y trywydd iawn.
Rhybuddiodd dadansoddiad newydd yr wythnos hon bod cynlluniau presennol hyd at 2030 yn debygol o arwain at gynhesu i 2.4 gradd selsiws.
Mae’r pwysau nawr ar wledydd i gytuno ar gytundeb a fydd yn sicrhau eu bod yn cymryd mwy o gamau yn y 2020au ac yn cadw’r nod o 1.5C o fewn cyrraedd.