Mae’r Comisiwn Elusennau wedi lansio ymchwiliad i honiadau bod rhoddion oedd wedi eu bwriadu ar gyfer Sefydliad Tywysog Cymru wedi mynd i elusen arall.
Dyma’r argyfwng diweddaraf i daro sefydliad elusennol Charles yn dilyn honiadau ynghylch arian am anrhydeddau.
Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar weithredoedd y Sefydliad Mahfouz, a sefydlwyd gan y biliwnydd o Saudi Arabia, Mahfouz Marei Mubarak bin Mahfouz.
Ymddiswyddodd Michael Fawcett, un o gyfeillion agosaf Charles a phrif weithredwr Sefydliad y Tywysog, yr wythnos diwethaf ar ôl honiadau ei fod wedi helpu i sicrhau dinasyddiaeth Brydeinig i Mahfouz Marei Mubarak bin Mahfouz, a sichrau ei fod yn cael ei urddo’n farchog.
Dywedodd y comisiwn am Sefydliad Mahfouz: “Mae’r comisiwn wedi bod yn ymgysylltu â’i ymddiriedolwyr ers mis Medi ar ôl i adroddiadau yn y cyfryngau honni bod rhoddion, a fwriadwyd ar gyfer Sefydliad y Tywysog, yn hytrach wedi mynd i Sefydliad Mahfouz.
“Yna trosglwyddwyd rhai o’r cronfeydd hyn i fannau eraill.”
Mae’r rheoleiddiwr hefyd wedi nodi pryderon ynghylch llywodraethu’r ymddiriedolwyr a rheolaeth ariannol yr elusen, ac mae’r achos wedi’i godi i statws ymchwiliad statudol.
Bydd yr ymchwiliad yn archwilio a oedd rhai rhoddion a dderbyniwyd gan Sefydliad Mahfouz “wedi’u bwriadu ar gyfer yr elusen, wedi’u defnyddio yn unol â bwriadau’r rhoddwyr, ac a ddylid eu dychwelyd i’r rhoddwr neu eu defnyddio at ddibenion elusennol eraill”.
Bydd hefyd yn ystyried a yw’r ymddiriedolwyr yn cyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau cyfreithiol fel ymddiriedolwyr yn unol â chyfraith elusennau.
£500,000
Nid yw Sefydliad y Tywysog yn cael ei reoleiddio gan y Comisiwn, ond mae wedi’i gofrestru gyda Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban.
Mae rheoleiddiwr elusennau’r Alban eisoes yn ymchwilio i elusen Charles yn dilyn honiadau ym mis Medi ei bod wedi derbyn swm chwe ffigwr gan roddwr cyfoethog o Rwsia, Dmitry Leus.
Ysgrifennodd Charles lythyr yn diolch i’r dyn busnes am ei gynnig hael o fwy na £500,000 i Sefydliad y Tywysog y llynedd ac awgrymodd y gallent gyfarfod ar ôl pandemig y coronafeirws.
Derbyniodd yr elusen £100,000 i ddechrau ond cafodd y cyfanswm ei wrthod gan bwyllgor moeseg y sefydliad yn dilyn pryderon am lle’r oedd yr arian yn dod, yn ôl The Sunday Times.
Dywedodd y rheoleiddiwr ei fod yn ymchwilio i’r “amryw faterion sydd wedi eu codi”.
Galw am dryloywder
Mewn llythyr o 2017 a gyhoeddwyd gan The Mail on Sunday, dywedodd Michael Fawcett ei fod yn fodlon gwneud cais i newid CBE Mahfouz Marei Mubarak bin Mahfouz i KBE, hynny yw ei urddo’n farchog, a chefnogi ei gais am ddinasyddiaeth.
Dywedodd y llythyr – a oedd wedi ei ysgrifennu tra yr oedd Michael Fawcett yn Brif Weithredwr ymddiriedolaeth Dumfries House – y byddai’r cais yn cael ei wneud fel ymateb i “gefnogaeth ddiweddaraf a disgwyliedig” yr ymddiriedolaeth.
Y flwyddyn ganlynol, daeth Tŷ Dumfries yn rhan o Sefydliad y Tywysog yn ystod ad-drefnu elusennau Charles – a chafodd ei gyfaill, Michael Fawcett, ei benodi yn brif weithredwr.
Dywedodd Graham Smith o Republic, sy’n ymgyrchu dros bennaeth gwladwriaeth etholedig: “Mae’n bryd cael datgeliad llawn a thryloywder gan y teulu brenhinol.
“Dylai’r safonau a’r rheolau rydym yn disgwyl i ASau gadw atynt hefyd fod yn berthnasol i’r teulu brenhinol.
“Faint yn rhagor o gwestiynau fydd yn cael eu codi am ymddygiad a gonestrwydd y teulu brenhinol cyn i wleidyddion ymateb a gweithredu?”