Mae Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Llyr Gruffudd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch afonydd rhag carthffosiaeth, ar ôl i gyfraith newydd gael ei phasio yn San Steffan.
Mae ‘Deddf yr Amgylchedd 2021’ yn cyflwyno ystod o fesurau newydd i leihau effaith niweidiol carthion ar afonydd ac ardaloedd arfordirol yn Lloegr.
Ond nid oes mesurau tebyg ar waith yng Nghymru.
Mewn llythyr at Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, mae AoS Plaid Cymru dros Ogledd Cymru yn gofyn a yw’r llywodraeth wedi ystyried deddfu yng Nghymru i leihau’r niwed amgylcheddol sy’n cael eu hachosi gan garthion.
Yn benodol mae’r llythyr yn nodi effaith carthffosiaeth sy’n llifo i afonydd yn dilyn stormydd a glaw trwm.
Yn ôl ffigyrau Dŵr Cymru, yn 2020 cafodd carthion eu gollwng i afonydd yng Nghymru dros 100,000 o weithiau.
Poeni
Yn ôl yr AoS Llyr Gruffudd mae’n poeni bod afonydd ac ardaloedd arfordirol yn Lloegr wedi’u diogelu’n well rhag effeithiau “andwyol” carthion na’r rhai yng Nghymru.
“Mae rhyddhau carthion amrwd i’n dyfrffyrdd yn rhywbeth dadleuol a hynod o niweidiol ac mae’r newidiadau diweddar i’r gyfraith yn Lloegr yn peri i’r Pwyllgor ddwys-ystyried,” meddai.
“A yw’r mesurau sydd ar waith [gan Lywodraeth Cymru] i ddiogelu afonydd a moroedd bellach yn wannach yma nag ar draws y ffin?
“Ac a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i roi terfyn ar yr arfer hwn?”
“Mae’n hanfodol bod y Gweinidog yn edrych yn fanwl ac ar fyrder ar y cwestiynau rydym wedi’u codi i sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl o ran diogelu ein hamgylchedd.”
“Mae gan Gymru amgylchedd naturiol anhygoel ac mae ein hafonydd a’n moroedd â rhan annatod yn hyn.”
Amaeth
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae 46% o afonydd Cymru yn cael eu hystyried yn “statws da” o ran lefelau llygredd ac maen nhw’n buddsoddi £9.5m yn y flwyddyn ariannol bresennol er mwyn gwella safon dŵr yng Nghymru.
Eisoes mae llygredd afonydd yn destun llosg yng nghefn gwlad gyda Llywodraeth Cymru wedi dynodi Cymru gyfan yn Barth Perygl Nitradau (NVZ) ddechrau mis Ebrill eleni.
Dadl y llywodraeth yw y bydd hyn yn cyfyngu ar y niwed amgylcheddol sy’n cael ei achosi gan nitradau sydd mewn carthion da byw rhag llifo i afonydd a dinistrio bywyd gwyllt.
Ond mae undeb ffermio NFU Cymru wedi cael yr hawl i apelio yn erbyn y rheolau newydd yn yr Uchel Lys ac mae’r achos yn parhau.
Mae Llyr Gruffudd wedi gofyn am ymateb gan y Gweinidog erbyn Rhagfyr 2 fan bellaf.
Mae Golwg360 hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.