Mae adroddiad damniol am un o unedau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dangos “bwlch anferth” rhwng y rheolwyr a’r staff rheng flaen, meddai Plaid Cymru.
Yn ôl Adroddiad Holden, fe wnaeth 42 aelod o staff yn Uned Hergest ym Mangor gwyno am fwlio gan uwch-reolwyr, diffyg gweithwyr, a safonau gofal gwael.
Mae’r adroddiad yn nodi bod cyfathrebu “yn ddifrifol wan” rhwng rheolwyr a staff, ac yn ôl Llyr Gruffydd, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, mae angen “tystiolaeth glir” i ddangos bod newidiadau wedi cael eu gwneud.
Ni chafodd y cwynion eu cydnabod am flynyddoedd, ac mae’r adroddiad, a gafodd ei lunio yn 2013, wedi cael ei gyhoeddi’n llawn heddiw (18 Tachwedd).
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwrthod ei gyhoeddi nes i dribiwnlys eu gorfodi i wneud hynny.
Yr adroddiad
Cafodd y cwynion eu gwneud gan staff ar ôl marwolaeth ar Uned Hergest, ond er hynny ni wnaeth y sefyllfa newid yn ddigonol i atal rhagor o farwolaethau.
Mae’r pryderon yn yr adroddiad, sy’n seiliedig ar gyfweliadau rhwng yr awdur, Robin Holden, a degau o staff a rheolwyr, wedi’u rhannu’n bum rhan: gwendidau cyfathrebu, arddull rheoli, diwylliant o fwlio, gorlenwi a diffyg staff, ac ysbryd isel a phryder ymhlith staff.
Roedd “tanamcangyfrif difrifol” o ran yr hyfforddiant sydd ei angen ar staff, meddai’r adroddiad, ac roedd ysbryd yn isel ymhlith staff a oedd yn teimlo fel nad oedd neb yn gwrando arnyn nhw.
Roedd y “berthynas rhwng staff a rheolwyr ar lefel metron, ac yn uwch na hynny, wedi torri i’r fath raddau fel bod gofal cleifion yn cael ei effeithio yn ddiamheuol,” meddai’r adroddiad 14 tudalen o hyd.
Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth nifer o’r staff gydnabod rhywfaint o esgeulustod o ran y gofal, ond bod y rheiny ar y ward wedi gwneud popeth posib.
“Ni all hyn ddigwydd eto”
Mae Llyr Gruffydd, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros ranbarth y Gogledd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “gamu ymlaen a gweithredu”, gan ddweud na wnaeth y problemau orffen gydag Adroddiad Holden.
“O’r diwedd mae’r cyhoedd wedi cael gweld y manylion y mae Betsi Cadwaladr wedi ymladd mor galed i’w cadw ynghudd,” meddai Llyr Gruffydd.
“Mae’r rhai wnaeth dynnu sylw at hyn wedi cael eu dymuniadau – bod yr amodau gwaith ofnadwy ar Uned Hergest yn glir i bawb eu gweld, ac mae goblygiadau ofnadwy hynny wedi dod i’r amlwg yn barod.
“Oherwydd ni ddaeth y diwylliant o fwlio a bygwth gan uwch-reolwyr i ben gyda’r adroddiad hwn. Ac ni ddaeth y cwestiynau a’r pryderon am ofal cleifion i ben pan gafodd Betsi Cadwaladr ei thynnu allan o fesurau arbennig chwaith – fel cafodd ei ddangos pan fu farw claf yn sgil hunanladdiad ym mis Ebrill eleni, tra’r oedd o dan ofal Uned Hergest.”
Mae angen tystiolaeth glir bod newidiadau wedi cael eu gwneud, meddai Llyr Gruffydd.
“Yn benodol, rydyn ni angen datganiad clir gan y Gweinidog Iechyd a bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fod ganddyn nhw gynllun clir i roi diwedd i’r weithred, sydd wedi dyddio, o gymysgu cleifion hŷn a gweithredol ar Uned Hergest.
“Dydi’r materion sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ddim yn broblemau ynysig, ond yn hytrach mae hi’n broblem fwy systemig.
“Nawr bod yr adroddiad allan yn gyhoeddus, rydyn ni angen gwybod bod pryderon staff y rheng flaen wedi cael eu clywed, bod newidiadau wedi cael eu gwneud, ac na all hyn ddigwydd eto.
“Oherwydd dydi’r adroddiad ddim yn disgrifio bwlch bach rhwng y rheolwyr a’r staff rheng flaen – mae’n fwlch anferth, a’r bobol ddisgynnodd rhwng y bylchau oedd cleifion mwyaf agored i niwed y bwrdd iechyd.
“Mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd, a welodd yr adroddiad hwn y llynedd a pheidio gweithredu ar y pryd, gamu ymlaen a gweithredu ar y canfyddiadau hyn.”
“Mwy o waith i’w wneud”
Dywedodd Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fod y bwrdd yn “cydnabod bod yr oedi o ran cyhoeddi’r adroddiad hwn wedi peri rhwystredigaeth”.
“Ar ôl myfyrio ynghylch y ffordd yr ymdriniwyd â hyn, mae’r Bwrdd wedi penderfynu y bydd adroddiadau o’r natur hon ar gael i’r cyhoedd yn y dyfodol, er budd didwylledd a thryloywder.
“Cymerwyd camau, ac maent yn parhau i fod ar waith, i gyflawni holl argymhellion Adroddiad Holden ac adroddwyd ar hyn yn gyhoeddus. Fodd bynnag, mae rhai materion, fel y ffordd rydym yn rheoli’r cymysgedd o gleifion hŷn, wedi bod yn anodd eu datrys, oherwydd dyluniad a chynllun Uned Hergest a’r adnoddau staffio sydd ynghlwm wrthi. Mae opsiynau i fynd i’r afael â hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Yn ôl Jo Whitehead, mae adroddiadau yn dangos bod safonau gofal, morâl staff, a threfniadau arwain wedi gwella dros y blynyddoedd.
“Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae gennym fwy o lawer o waith i’w wneud er mwyn caniatáu i’n staff ymroddedig gyflwyno’r gofal gorau posibl.
“Yn yr un ffordd â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar draws y Deyrnas Unedig, rydym yn wynebu heriau sylweddol o ran niferoedd staffio, rheoli’r galw am welyau, sicrhau’r cymysgedd priodol o gleifion, a delio ag effaith COVID-19.
“Rydym yn ymrwymedig i weithio’n agos gyda’n cleifion, eu gofalwyr, ein staff, a’n partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau hyn, ac i wella ymddiriedaeth a hyder o ran y gwasanaethau iechyd meddwl yr ydym yn eu darparu.”
“Rydym yn ymddiheuro am y methiannau hyn mewn gofal”
Wrth ymateb, nododd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi pecyn sylweddol o gymorth strategol i’r bwrdd iechyd, gan gynnwys £12m y flwyddyn hyd at 2023-24 i gefnogi ei strategaeth iechyd meddwl ac i helpu gyda “chyflawni trawsnewid”.
Dywedodd llefarydd: “Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad llawn Holden ac yn cymeradwyo argymhellion adolygiad diweddar Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ofal claf a gafodd driniaeth yn Uned Hergest yn 2013.
“Nodwn fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn yr holl argymhellion a byddwn yn sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu’n gyflym.
“Rydym yn ymddiheuro am y methiannau hyn mewn gofal.
“Mae’r bwrdd iechyd mewn [proses o] ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl sy’n golygu goruchwyliaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru ac yn golygu bod camau gweithredu clir a chytunedig ar waith i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i wella.
“Rydym yn cydnabod y bydd yr oedi wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn wedi bod yn anodd i’r unigolion yr effeithir arnynt a’u teuluoedd. Rydym yn falch o nodi bod y bwrdd iechyd wedi penderfynu, er mwyn bod yn agored ac yn dryloyw, y bydd adroddiadau o’r math hwn yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol.”