Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwahardd helfeydd dilyn trywydd (trail hunting) ar eu tir.

Yn ystod helfeydd dilyn trywydd, sy’n gyfreithlon, mae ceffylau a chŵn yn dilyn arogleuon sydd wedi’u gosod yno’n barod.

Daw’r gwaharddiad ar ôl i heliwr amlwg a phrofiadol gael ei ganfod yn euog o annog defnyddio helfeydd dilyn trywydd fel ffordd o guddio’r arfer o hela a lladd anifeiliaid yn anghyfreithlon.

Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyflwyno’r un gwaharddiad ar eu tir nhw ddiwedd mis Hydref, ar ôl i’w haelodau bleidleisio o blaid gwaharddiad.

Cafodd hela llwynogod ei wahardd yn 2005, ond yn ystod dau webinar ym mis Awst llynedd, dywedodd Mark Hankinson, cyfarwyddwr Cymdeithas y Meistri Cŵn Hela, wrth aelodau’r Swyddfa Hela y gellid defnyddio’r math hwn o hela i guddio’r arfer o hela llwynogod.

Cafodd y fideos ohono’n dweud hynny eu gyrru i’r heddlu, a chafodd ei gyhuddo o annog neu helpu eraill i droseddu mewn achos llys fis diwethaf.

Yn sgil hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu peidio ag ailddechrau’r cytundeb oedd yn caniatáu i Gymdeithas Meistri’r Cŵn Hela ddefnyddio’u tir.

“Colli ffydd”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw wedi “colli ffydd” yn y gymdeithas, ac nad oes ganddyn nhw’r adnoddau i sicrhau nad yw helfeydd dilyn trywydd yn cael eu defnyddio i guddio gweithgarwch anghyfreithlon.

Cafodd helfeydd dilyn trywydd eu hatal ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Tachwedd 2020, ar ôl i’r heddlu ddechrau eu hymchwiliad i sylwadau Mark Hankinson.

Dywedodd Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym wedi ystyried dyfarniad y llys a’n rôl ni yn ofalus cyn dod i benderfyniad yng nghyfarfod y Bwrdd, a gynhaliwyd gennym yn gyhoeddus, ac rydym wedi penderfynu peidio ag adnewyddu ein cytundeb â Chymdeithas Meistri’r Cŵn Hela (MFHA).

“Mae canlyniad yr achos llys yn erbyn un o uwch arweinwyr yr MFHA wedi arwain at golli hyder yng ngallu’r sefydliad i sicrhau bod ei weithgareddau’n cael eu cynnal yn unol â’r gyfraith a thelerau ei gytundeb.

“Er mwyn tawelu ein meddwl yn llwyr nad yw helfeydd dilyn trywydd ar ein hystâd yn cael eu defnyddio fel modd o guddio gweithgarwch anghyfreithlon, byddai’n rhaid i ni fuddsoddi mewn sgiliau ac adnoddau nad ydynt ar gael i ni ar hyn o bryd, i’w plismona’n briodol.

“Oherwydd bod helfeydd fel hyn, yn hanesyddol, wedi bod yn gyfran fach o’r defnydd ar ein tir, nid yw hyn yn cynrychioli defnydd da o’n hadnoddau cyfyngedig.

“Gan fod yr holl helfeydd dilyn trywydd cael eu rheoli o dan y cytundeb hwn, rydym wedi penderfynu dod â helfeydd dilyn trywydd ar yr ystâd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ben ar unwaith.”

“Dilyn dymuniadau gwleidyddol”

Honnodd Rachel Evans, cyfarwyddwr Cynghrair Cefn Gwlad Cymru, fod penderfyniad CNC yn “un hollol wleidyddol” oedd yn cael ei yrru gan Lywodraeth Lafur Cymru.

“Mae wir yn siomedig,” meddai, “ond nid yn syndod mawr, fod CNC unwaith eto wedi dilyn dymuniadau gwleidyddol y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Hela: “Mae’n siomedig na wnaeth CNC ymgynghori â Chymdeithas y Meistri Cŵn Hela cyn gwneud y penderfyniad hwn, ond rydym yn gobeithio y bydd modd ymgynghori ymhellach yn dilyn yr adolygiad yr ydym yn ei gynnal ar hyn o bryd.”