Mae streic gyrwyr bysys Arriva yn y gogledd wedi cael ei gohirio, ar ôl i’r cwmni gynnig tâl gwell i’w gweithwyr.

Roedd aelodau Uno’r Undeb yn y gogledd wedi dweud eu bod nhw’n barod i streicio am bum wythnos dros dâl annheg.

Yn ôl yr undeb, bydd y gyrwyr yn dychwelyd i’w gwaith tra bod pleidlais yn cael ei chynnal ymysg y gweithwyr er mwyn penderfynu sut i ymateb i’r cynnig.

Roedd y gweithwyr yn flin eu bod nhw’n derbyn £1.81 yr awr yn llai o gyflog nag y mae gweithwyr Arriva dros y ffin yng Nglannau Merswy.

Ar ben hynny, roedd y gyrwyr yng Nghymru wedi cael cynnig codiad cyflog gan y cwmni o 29 ceiniog yr awr, tra bod gyrwyr gogledd-orllewin Lloegr wedi cael cynnig 39 ceiniog.

Yn sgil hynny, roedd 400 o yrwyr bysys Arriva wedi dechrau streicio’r wythnos hon, gyda’r anghydfod yn tarfu ar deithiau bws oedd yn dechrau o bob un o’r depos yn Amlwch, Bangor, Llandudno, y Rhyl, Wrecsam a Phenarlâg.

Fe wnaeth 95% o weithlu’r cwmni sy’n perthyn i’r undeb bleidleisio dros weithredu diwydiannol, a dechrau’r wythnos dywedodd Swyddog Rhanbarthol Uno’r Undeb yn Wrecsam, nad yw “gweithwyr yng Nghymru’n fodlon derbyn telerau gwaith llai ffafriol na gweithwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig”.

“Gohirio’r streic”

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar Twitter, dywedodd Uno’r Undeb Cymru:

“Yn dilyn trafodaethau gydag Arriva Bus Cymru heddiw, mae’r cwmni wedi cyflwyno cynnig tâl newydd, gwell.

“Byddwn ni felly yn gohirio’r streic dros Ogledd Cymru, ac yn cynnal pleidlais ymysg ein haelodau ynglŷn â’r cynnig newydd.”

Echdoe, bu “buddugoliaeth eithriadol” i yrwyr cwmni bysys Stagecoach yn y de ar ôl 17 diwrnod o streicio.

Gyrwyr bysys yn barod am “frwydr hir” tros gyflogau

Sian Williams

“Dyw hi ddim yn iawn fod gyrwyr yng ngogledd Cymru yn cael eu talu llai ac yn cael eu gorfodi i weithio oriau hirach na gyrwyr dros y ffin”