Mae cwmni bysus Arriva yn gallu talu llai i’w gweithwyr yng Nghymru nag yn Lloegr oherwydd “economeg ranbarthol” medd llefarydd y cwmni wrth Golwg.

Yn ôl undeb Unite, mae’r 400 o yrwyr bysys Arriva yn y gogledd ddechreuodd streicio ddechrau’r wythnos, yn barod am “frwydr hir” gyda’r cwmni dros yr hyn y maent yn ei alw’n “gyflog tlodi”.

Mae’r gweithwyr wedi ymrwymo i bum wythnos o weithredu diwydiannol. Ac maen nhw’n flin eu bod yn derbyn £1.81 yr awr yn llai o gyflog nag y mae gweithwyr Arriva dros Glawdd Offa yng Nglannau Merswy.

Ar ben hynny mae gyrwyr bysys Arriva yng Nghymru wedi cael cynnig codiad cyflog gan y cwmni o 29 ceiniog yr awr, tra bod gyrwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr wedi cael cynnig 39 ceiniog.

Dywedodd Jay Drummond, Rheolwr Marchnata Arriva yn Lerpwl, wrth gylchgrawn Golwg: “Maen bwysig peidio cymharu rhanbarthau gwahanol sydd gyda gweithrediadau ac amgylchiadau hollol wahanol. “Mae graddfa’r farchnad wedi’i unioni gydag economeg ranbarthol a nifer o ffactorau eraill sy’n benodol i fusnesau mewn rhanbarthau gwahanol, yn enwedig nifer y teithwyr.”

Rhys ap Gwilym

Mae Rhys ap Gwilym yn Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor.

Yn ogystal, mae’r academydd yn aelod o Grŵp Polisi Economaidd y Sefydliad Materion Cymreig.

Fe ddangosodd Golwg ymateb Arriva iddo, gan ofyn a yw’r cwmni yn gallu talu llai i yrwyr yng Nghymru am ein bod yn dlotach yma.

“Dyna’n union beth mae o’n feddwl, ia” oedd ei ymateb, cyn ymhelaethu.

“Y gwir amdani yw bod yna wahaniaethau economaidd yn awr tu fewn i ardaloedd gweddol fach yn y Deyrnas Unedig [sydd] yn un o’r economïau mwyaf anghyfartal o ran dosbarthiad rhanbarthol unrhyw le yn y byd.”

Y cwestiwn, yn ôl Rhys ap Gwilym, yw: “Oes eisio beio Arriva am hynny ta ydi o’n natur cyfalafiaeth yn y Deyrnas Unedig a’r ffordd mae Llywodraeth San Steffan, yn bennaf, yn strwythuro’r economi?”

Yn ôl yr academydd, natur y farchnad mewn byd cyfalafol yw economeg ranbarthol.

“Os ydach chi’n gweithio mewn siop trin gwallt yng Nghaerdydd fyddech chi’n cael eich talu llai na os fyddech chi’n gweithio mewn siop trin gwallt ynghanol Llundain – hyd yn oed efo’r un lefel o sgiliau,” meddai ddechrau’r wythnos.

Yn y bôn, eglura, “dyna natur y farchnad. Ac mae ymateb Arriva yn dweud: dyma sut mae’r farchnad yn gweithio ac rydan ni’n talu ein gyrwyr ni cyn lleied ag sydd angen er mwyn cael pobol i weithio i ni yn yr ardaloedd hynny.”

Llun: Rhys ap Gwilym

Gwydnwch y gweithwyr

Fe bleidleisiodd 95% o weithlu cwmni Arriva sy’n perthyn i Undeb Unite dros weithredu diwydiannol, a hynny am y pum wythnos o ddydd Sul 14 Tachwedd tan ddydd Sul 19 Rhagfyr.

“Mae Arriva wedi camddehongli yn llwyr pa mor flin yw’r gweithlu am hyn,” meddai Jo Goodchild, Swyddog Rhanbarthol Unite yn Wrecsam.

“Dyw gweithwyr yng Nghymru ddim yn fodlon derbyn telerau gwaith llai ffafriol na gweithwyr mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae’r cwmni wedi gwastraffu cyfle i gynnig yr un telerau i’w gweithwyr yng Nghymru ac mae’r streic yma yn un hollol gadarn.”

Yn ôl undeb Unite mae’r anghydfod yn tarfu ar deithiau bws allan o bob un o’r chwe depo Arriva sy’n weddill yng Nghymru, sef: Amlwch; Bangor; Llandudno, y Rhyl, Wrecsam a Phenarlâg yn Sir y Fflint.

Galw am wladoli cwmnïau bysys

Mae streicwyr Arriva Cymru wedi derbyn cefnogaeth nifer o wleidyddion, gan gynnwys un Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru oedd yn cyd-sefyll gyda’r gweithwyr ar y llinell biced ddechrau’r wythnos.

Fe ddywedodd Carolyn Thomas wrth gylchgrawn Golwg ei bod hi’n amser “ailgyflwyno cwmnïau bysys sy’n perthyn i’r sector gyhoeddus”.

Mae Arriva Cymru, meddai, “yn gwmni mawr sy’n derbyn arian cyhoeddus sylweddol ac mae angen iddynt wneud yr hyn sy’n iawn o ran eu gweithwyr.”

Cyn ei hethol yn Aelod o’r Senedd tros Lafur eleni, roedd Carolyn Thomas yn aelod o gabinet Cyngor Sir y Fflint gyda chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, eglura.

“Felly dw i’n deall yn iawn pa mor bwysig yw’r gwasanaethau yma i ogledd Cymru!”

Ers ei hethol i’r Senedd, mae Carolyn Thomas wedi ffurfio Grŵp Trawsbleidiol Gwasanaethau Cyhoeddus a hi fydd yn ei gadeirio.

“Mae gan y gyrwyr fy nghefnogaeth yn llawn a dw i’n sefyll mewn undod gyda nhw. Dyw hi ddim yn iawn fod gyrwyr yng ngogledd Cymru yn cael eu talu llai ac yn cael eu gorfodi i weithio oriau hirach na gyrwyr dros y ffin.”

Yn ôl y gwleidydd mae gyrru bws i Arriva “yn golygu gwaith shifft rhwng pump o’r gloch y bore ac wyth o’r gloch yr hwyr. Ac mae yna lawer o gyfrifoldeb arnynt wrth gludo teithwyr ond maen nhw’n  mwynhau eu gwaith. Mae o’n glir i mi o siarad gydag etholwyr ar draws y gogledd mai trafnidiaeth gyhoeddus yw eu cyswllt gyda’r byd mawr tu allan.”