Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu prawf sy’n gallu mesur ymateb celloedd-T a gwrthgyrff i Covid-19 mewn un sampl gwaed.
Gellir defnyddio’r dull i fesur yr imiwnedd sydd wedi’i achosi gan frechlyn neu haint blaenorol, meddai’r ymchwilwyr.
Mae gwrthgyrff yn un o ymatebion imiwnedd y corff, ac i rai pobol mae’r ymateb hwn yn wan ac yn fyrhoedlog.
Ond creda ymchwilwyr bod imiwnedd celloedd-T yn chwarae rhan dipyn mwy wrth amddiffyn pobol rhag heintiadau – ond mae profi hynny ar raddfa eang wedi bod yn fwy heriol.
Mae gwrthgyrff yn glynu at sylweddau diarth yn y corff, megis firysau neu facteria, ac yn dweud wrth y system imiwnedd bod angen iddo weithredu.
O gymharu, mae celloedd-T yn fath o gelloedd gwaed gwyn sy’n mynd ar ôl celloedd sydd wedi’u heintio yn y corff, ac yn eu dinistrio nhw.
Monitro’r pandemig
Dywedodd Dr Martin Scurr, cydymaith ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd a phrif awdur yr astudiaeth: “Mae cyfraddau heintio Covid-19 dal yn eithriadol o uchel – ac mae’n amlwg bod heintiadau ar ôl brechlynnau yn broblem.
“Er mwyn helpu i reoli clystyrau yn y dyfodol, ac adnabod unigolion sydd mewn perygl uchel, mae hi’n bwysig deall union wneuthuriad ymateb y system imiwnedd i Covid.
“Mae ein profion yn mesur ymateb celloedd-T a gwrthgyrff i’r feirws yn gywir mewn un sampl gwaed.
“Gyda’i gilydd mae’r ddau beth hyn yn cynrychioli imiwnedd pwerus rhag Covid-19.
“Gall y prawf fod ar gael yn eang, mae’n hawdd i’w ddefnyddio, ac mae’n gost effeithlon, a dylai chwarae rhan ddefnyddiol yn monitro’r pandemig hwn, er enghraifft drwy adnabod unigolion sydd fwy o angen brechlynnau atgyfnerthu.”
Yr astudiaeth
Fel rhan o’r astudiaeth, fe wnaeth ymchwilwyr gymryd sampl fach o waed gan unigolion o bob oed, 68 gyda chanser gwaelodol a 231 rhoddwr iach.
Roedden nhw’n ysgogi celloedd-T drwy roi darnau bach o’r feirws yn y gwaed. Mae’r celloedd-T yn gallu adnabod y darnau os yw’r unigolyn wedi cael ei heintio yn y gorffennol (neu wedi cael ei frechu), ac maen nhw’n cynhyrchu cemegau o’r enw cytokines sy’n gallu cael eu mesur yn hawdd.
Cafodd maint ymatebion y celloedd-T a’r gwrthgyrff eu monitro mewn grŵp o unigolion a gafodd eu profi cyn, yn ystod, a wedi ymgyrch frechu’r Deyrnas Unedig.
Daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad bod angen dau ddos o’r brechlyn i wneud y mwyaf o ymateb y celloedd-T.
Er hynny, doedd pobol oedd wedi cael Covid-19 yn y gorffennol ond angen un dos er mwyn cael yr un canlyniadau.
Fe wnaeth yr astudiaeth ddarganfod bod ail ddos o’r brechlyn yn hanfodol ar gyfer cleifion â chanser.
Mewn rhai cleifion canser, roedd gostyngiad sylweddol yn ymateb y system imiwnedd mewn tri mis, gan amlygu pwysigrwydd monitro’r ymatebion.
“Hanfodol”
Dywedodd yr Athro Andrew Godkin, cyd-uwch awdur o Brifysgol Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Cymru: “Heb y math hwn o wybodaeth mae ansicrwydd ynghylch a fydd angen brechiadau atgyfnerthu dro ar ôl tro yn y dyfodol, a phwy fydd eu hangen yn benodol.
“Mae’r data hwn yn hanfodol er mwyn deall sut a phryd i gynnig ail-frechiadau i wahanol grwpiau.”
Bydd y tîm hefyd yn monitro os yw ymatebion celloedd-T a gwrthgyrff, sy’n cael eu hachosi drwy frechlynnau, yn gallu amddiffyn pobol yn erbyn amrywiolion Covid.
“Mae’r astudiaeth hon yn bwysig o ran dangos pa mor hawdd yw mesur ymatebion imiwnedd gan ddefnyddio dull gwaed cyfan, ond hefyd pwysigrwydd monitro unigolion bregus ac iach ar gyfer gwahaniaethau mewn ymateb i frechlynnau a’r posibilrwydd o golli amddiffyniad yn y dyfodol,” ychwanegodd Danny Altmann, athro mewn imiwnoleg ym Mhrifysgol Imperial Llundain.
“Bydd monitro hirdymor yn hanfodol er mwyn deall a mesur y broblem hon.”