Bydd Mark Drakeford yn croesawu arweinwyr y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i Gymru heddiw (19 Tachwedd).

Fe fydd Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, gan ddod ag arweinwyr y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Gogledd Iwerddon, Alban, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw ynghyd.

Mae’r Uwchgynhadledd yn cael ei chynnal ar adeg “hynod o bwysig i aelodau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig”, yn sgil adferiad o’r pandemig, a’r trafodaethau parhaus rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Mae’r angen i lywodraethau weithio gyda’i gilydd i weithredu yn erbyn newid hinsawdd, yn dilyn COP26, yn ychwanegu at bwysigrwydd cyd-destun yr Uwchgynhadledd, meddai Llywodraeth Cymru.

“Perthynas gadarnhaol”

Wrth siarad cyn yr Uwchgynhadledd, dywedodd Mark Drakeford, ei fod yn edrych ymlaen at groesawu’r Gweinidogion, er mwyn “trafod llawer o faterion y mae angen gweithredu arnynt ar fyrder”.

“Mae’r Uwchgynhadledd heddiw yn gyfle amserol i gefnogi deialog a gweithredu ar y cyd rhwng ein llywodraethau, sy’n fwy hanfodol nag erioed o ystyried yr heriau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’r Cyngor yn chwarae rhan unigryw a hanfodol i feithrin perthynas gadarnhaol rhwng ei aelodau.

“Mae’r Uwchgynhadledd heddiw yn gyfle arbennig o bwysig i gynnal cysylltiadau ac adeiladu arnynt.”