Doedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig “heb baratoi’n ddigonol” ar gyfer “effeithiau eang” Covid-19 ar gymdeithas, yr economi, na gwasanaethau cyhoeddus, meddai adroddiad newydd.
Yn ôl yr adroddiad, roedd yna ddiffyg cynlluniau manwl ar raglenni cefnogi swyddi, amhariadau i ysgolion, a sut i warchod pobol agored i niwed.
Ni chafodd rhai gwersi a gafodd eu dysgu yn ystod ymarferion yn y gorffennol – a fyddai wedi helpu gyda pharatoadau Covid-19 – eu “gweithredu’n llawn” chwaith, meddai’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol.
Daeth yr adroddiad i’r canlyniad bod yr arian a’r egni a gafodd ei ddefnyddio’n paratoi at Brexit wedi helpu ond hefyd wedi tarfu ar waith y Llywodraeth wrth gynllunio ar gyfer argyfyngau.
Fe wnaeth y paratoadau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd wella “galluoedd” rhai adrannau mewn “argyfyngau”, ond cafodd adnoddau sylweddol eu defnyddio hefyd.
Bu’n rhaid i’r Llywodraeth ohirio gwaith cynllunio ar gyfer pandemig ffliw posib, yn sgil hynny.
Yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, roedd 56 o’r 94 aelod o staff yn uned gynllunio frys Swyddfa’r Cabinet yn gweithio er mwyn paratoi at amhariadau Brexit heb gytundeb, gan “gyfyngu ar ei gallu” i gynllunio at argyfyngau eraill.
“Mae hyn yn codi her i’r Llywodraeth ynglŷn ag a oes ganddi’r capasiti i ymdopi ag argyfyngau neu ergydion niferus,” meddai’r adroddiad.
Rheoli risg
Er bod gan y Llywodraeth gynlluniau ar gyfer pandemig, doedd nifer o’r rhain “ddim yn ddigonol” ar gyfer ymateb i’r her, meddai’r adroddiad.
Roedd y Llywodraeth wedi blaenoriaethu paratoi at “ddau risg feiral penodol” – gan gynnwys pandemig y ffliw, a salwch heintus argyfyngus â goblygiadau uchel.
Byddai’r ail yn cyfeirio at afiechyd sydd â chyfradd marwolaeth uchel ymysg y rhai sy’n ei ddal neu â’r gallu i ledaenu’n sydyn, ac yn anodd ei drin – fel Ebola, neu MERS.
Doedd y Llywodraeth heb ddatblygu cynllun penodol ar gyfer afiechyd sy’n ymddwyn fel Covid-19 – sydd a chyfradd marwolaethau is nag Ebola a MERS, ond sy’n gallu lledaenu’n eang drwy bobol heb symptomau.
Cyn y pandemig, doedd y Llywodraeth “heb gytuno’n eglur ar ba lefel o risg y bydden nhw’n fodlon ei dderbyn mewn digwyddiad megis Covid-19,” meddai’r adroddiad.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod y pandemig wedi amlygu’r angen i gryfhau prosesau rheoli risg y Llywodraeth, a chryfhau “gwydnwch cenedlaethol”, er mwyn paratoi at ddigwyddiadau tebyg.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r Llywodraeth wedi dechrau mynd i’r afael â rhai o’r materion gafodd eu codi – megis drwy’r Strategaeth Gwydnwch Cenedlaethol.
“Ddim yn barod”
Dywedodd Gareth Davies, pennaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, fod y pandemig wedi “amlygu pa mor agored i niwed yw’r Deyrnas Unedig i argyfyngau dros yr holl system, lle mae’r argyfwng mor eang y mae’n gysylltiedig â phob lefel o lywodraeth a chymdeithas”.
“Er bod gan y Llywodraeth gynlluniau ar gyfer pandemig ffliw, doedd hi ddim yn barod ar gyfer pandemig fel Covid-19 ac ni wnaeth hi ddysgu gwersi pwysig gan yr ymarferion symbyliad a gafodd eu cynnal.
“Ar gyfer risgiau dros y system, mae’r Llywodraeth angen diffinio maint a’r math o risg y mae hi’n barod i’w cymryd er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a pharatoi’n addas.”
“Herio systemau iechyd”
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Rydyn ni bob tro wedi dweud bod yna wersi i’w dysgu gan y pandemig, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn yn y gwanwyn.
“Rydyn ni’n paratoi ar gyfer ystod o sefyllfaoedd posib, ac er bod trefniadau helaeth mewn lle, fe wnaeth y pandemig heb ei debyg hwn herio systemau iechyd dros y byd.
“Diolch i’n hymdrech genedlaethol, ac ein paratoadau ar gyfer y ffliw, rydyn ni wedi achub bywydau, brechu degau ar filiynau o bobol, ac atal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhag cael ei lethu.”