Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio yn dilyn achos o drywanu yng Nghaerdydd fore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 23).

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Stryd Hansen ger Heol Dumballs toc ar ôl 9 o’r gloch.

Mae’r stryd ynghau wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.

Dydyn nhw ddim wedi rhoi manylion am gyflwr yr unigolyn gafodd ei drywanu, ond maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth maes o law.