Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 2,927 o achosion Covid-19 newydd yng Nghymru yn eu ffigyrau diweddaraf.

Daw hynny â chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cofnodi ers dechrau’r pandemig i 501,028.

Cafodd pum marwolaeth yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn ffigyrau diweddaraf, gan ddod â’r cyfanswm i 6,382.

Fodd bynnag, mae’r gyfradd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl dros saith diwrnod wedi gostwng eto o 499.9 i 494.4.

Uwch yng Ngwynedd

Mae’r gyfradd yng Ngwynedd yn parhau i fod yn sylweddol uwch na gweddill y wlad, ar 882.3.

Bro Morgannwg (656.5) a Sir Fynwy (567.7) sydd â’r cyfraddau uchaf ar ôl hynny, ac mae cyfraddau dros 500 yn siroedd Wrecsam, Ynys Môn, Caerdydd, Merthyr Tudful a Sir Benfro.

Mae cyfradd Conwy (397.6) a Cheredigion (268.2) yn sylweddol is.

Mae 2,465,943 o bobl yng Nghymru wedi cael un brechiad Covid-19 a 2,260,662 wedi cael y cwrs llawn, tra bod 781,025 wedi derbyn brechiad atgyfnerthu.