Mae Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru wedi ymuno yn y galwadau am ymchwiliad covid sy’n benodol i Gymru.

Mewn llythyr at Paul Davies, Arweinydd Dros Dro’r Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd Heléna Herklots:

“Ymchwiliad Cyhoeddus Cymreig fyddai’n cynnig y cyfle gorau i glywed lleisiau pobol hŷn, gwerthfawrogi eu profiadau a’u barn, ac ateb eu cwestiynau”.

Mae Mark Drakeford wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad penodol i Gymru dro ar ôl tro, gan ddweud mai dim ond drwy ystyried y materion yng nghyd-destun ehangach y Deyrnas Unedig y gellir deall sefyllfa’r llywodraethau datganoledig.

Yn y llythyr dywedodd Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru:

“Dw i’n sicr bod rhaid i Ymchwiliad Cyhoeddus ganolbwyntio ar ddysgu gwersi o’r hyn rydyn ni wedi bod drwyddo a sut y gwnaeth y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, a chyrff eraill yng Nghymru, effeithio ar ein bywydau ni i gyd.

“Mae’n rhaid i ni ddysgu o’r hyn aeth yn dda fel rhan o ymateb Cymru i’r pandemig, ac edrych ar sut y byddem ni’n gwneud pethau’n wahanol pe bai achosion yn y dyfodol.”

“Effaith uniongyrchol ar fywydau yng Nghymru”

Mae’r Ceidwadwr Paul Davies “wrth ei fodd” bod y Comisiynydd Pobol Hŷn yn cefnogi’r galwadau am ymchwiliad i Gymru sydd ar wahan i’r un Prydeinig.

“Mae angen craffu ar sawl agwedd o bolisi’r llywodraeth, a’u gweithredoedd, ac nid yw’r driniaeth tuag at bobol hŷn, o gartrefi gofal i ysbytai, yn eithriad,” meddai.

“Mae penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud ym Mae Caerdydd – y rhai da a’r rhai drwg – wedi cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobol dros Gymru, ac ni all gweinyddiaeth Lafur, a oedd yn awyddus i bwysleisio eu bod nhw wedi gwneud pethau’n wahanol ar bob cyfle, ddiystyru hynny.”

“Annerbyniol”

Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd, Russell George AoS, bod “yna nifer o atebion sydd eu hangen gan y Llywodraeth Lafur, a byddai ymchwiliad penodol i Gymru yn gyfle i’w cael nhw”.

“Mae’r ffordd mae’r Prif Weinidog yn trio paratoi ei hun ar gyfer beio Llywodraeth Prydain ar ôl canfod ei hun ar ochr anghywir y farn gyhoeddus yn annerbyniol.

“Mae angen iddo roi’r gorau i’r gemau gwleidyddol, a bwrw ati er mwyn cyflwyno ymchwiliad cyhoeddus.

“Mae’r gefnogaeth gan y Comisiynydd Pobol Hŷn yn hwb enfawr i’r ymgyrch a dw i’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn cael ei berswadio gan ei dadl, gan nad ydi dadleuon y teuluoedd sy’n galaru wedi newid ei feddwl eto, yn anffodus.”

Cyhuddo Mark Drakeford o “osgoi cyfrifoldeb fel Prif Weinidog” drwy wrthod cynnal ymchwiliad Covid Cymru

Y Ceidwadwyr Cymreig yn galw drachefn am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru