Mae’r addysg yn ysgolion Powys wedi gwella yn ôl y corff arolygu Estyn, gyda’r gwasanaeth yn y sir ddim bellach yn y categori sy’n achosi “pryderon sylweddol”.

Daw’r sylw cadarnhaol ddwy flynedd a hanner wedi’r adroddiad anffodus gan Estyn oedd yn casglu bod Powys yn “awdurdod lleol sy’n achosi pryderon sylweddol” oherwydd safon yr addysg yn ei ysgolion.

Wrth reswm, roedd aelodau’r Cabinet sy’n rhedeg Cyngor Sir Powys wrth eu boddau gydag adroddiad monitro diweddaraf Estyn sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

“Mae yn braf iawn gallu darllen bod yr arweinyddiaeth wedi gweithio cystal gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i sicrhau cynnydd cryf wrth symud yr argymhellion wnaed yn eu blaenau,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am Addysg y sir.

Ychwanegodd: “Bu’r ymateb i adroddiad gwael gan yr arolygwyr yn un Tîm Powys go-iawn.

“Mae hi’n eithaf anghredadwy bod y gwasanaeth wedi ei wella i’r fath raddau yn y ddwy flynedd ddiwethaf, o gofio ei fod yn gyfnod o bandemig.”

Ar y trywydd iawn

Dywedodd y Cynghorydd Aled Davies, sy’n gyfrifol am Gyllid ar Gabinet Cyngor Powys:

“Mae’r adroddiad hwn yn gadarnhad ein bod ar y trywydd iawn gydag ein rhaglen i drawsnewid ein hysgolion. Gwn yn iawn ein bod wedi cymryd penderfyniadau anodd, ac na chafodd pob un ohonyn nhw groeso. A bydd yn rhaid i ni gymryd mwy yn y blynyddoedd nesaf.”