Mae dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio yn dilyn marwolaeth dynes yn ei chartref ym Mhontypridd.

Cafwyd hyd i gorff June Fox-Roberts, 65, yn ei chartref yn Llanilltud Faerdref tua 2.45yp ddydd Sul (21 Tachwedd).

Dywed Heddlu De Cymru bod Luke Deeley, 25 oed, o Bontypridd wedi’i gyhuddo o lofruddio ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys Ynadon Merthyr heddiw (Dydd Gwener, 26 Tachwedd).

Nid yw amgylchiadau marwolaeth June Fox-Roberts wedi’u cyhoeddi ond dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi’u galw i’r tŷ ar ôl i aelod o’r teulu gysylltu â nhw am eu bod yn bryderus amdani.

Yn ôl Heddlu’r De maen nhw wedi cynyddu nifer y swyddogion sydd ar batrôl yn yr ardal ac yn parhau i wneud ymholiadau o dŷ i dŷ.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George bod cyhuddo Luke Deeley yn “ddatblygiad sylweddol” ac mae wedi diolch i’r gymuned am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw gysylltiad amlwg rhwng June Fox-Roberts a Luke Deeley.