Mae mwy na 45% o gymhorthyddion, glanhawyr, gofalwyr, a staff cynorthwyol ysgolion Cymru’n chwilio am waith sy’n talu’n well, yn ôl arolwg newydd.
Mae perygl y bydd ysgolion yn colli staff cynorthwyol yn sgil cynnydd mewn costau byw a “thâl isel parhaus yn y sector addysg”, meddai undeb UNSAIN.
Dywedodd 98% o’r gweithwyr nad yw’r tâl maen nhw’n ei gael am weithio mewn ysgolion yn ddigon iddyn nhw allu ymdopi â’r cynnydd mewn costau byw.
Mae’r arolwg yn dangos bod nifer o weithwyr ysgolion yn byw heb wres neu ddŵr poeth gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio trwsio boeleri, a’u bod nhw’n poeni am driniaethau deintyddol, yn dibynnu ar eu plant am arian, neu’n defnyddio banciau bwyd.
Arolwg
Dywedodd 38% o’r rhai atebodd yr arolwg eu bod nhw’n ennill rhwng £1,000 a £1,199 o gyflog y mis, tra bod 32% yn ennill llai na £1,000 y mis.
Mae 76% yn poeni am dalu biliau a threth cyngor, a 52% yn pryderu am dalu eu morgais neu rent.
Yn sgil y pryderon, mae 27% yn gweithio dwy neu dair swydd er mwyn cael deupen llinyn ynghyd a gallu pharhau i weithio mewn ysgol.
Dangosodd yr arolwg fod 37% wedi gorfod stopio gwario gymaint, ac mae 18% wedi gorfod benthyg arian gan ffrindiau neu deulu.
Mae rhai gweithwyr wedi gorfod gwerthu eu heiddo ar-lein tra bod eraill yn gweithio mewn canolfannau galwadau, tafarndai, bwytai, neu archfarchnadoedd, yn ogystal a’u gwaith mewn ysgolion.
“Ni fyddai ysgolion yn gallu gweithredu hebddyn nhw”
Cafodd y canfyddiadau eu rhyddhau heddiw (26 Tachwedd) er mwyn cyd-fynd â lansiad Sêr yn ein Hysgolion, digwyddiad blynyddol UNSAIN sy’n dathlu cyfraniad staff cynorthwyol.
Dywedodd Rosie Lewis, prif swyddog UNSAIN Cymru ar ran staff cynorthwyol ysgolion, eu bod yn “weithlu ymrwymedig sy’n mynd gam ymhellach bob diwrnod ac yn gweithio’n eithriadol o galed”.
“Ni fyddai ysgolion yn gallu gweithredu hebddyn nhw,” meddai Rosie Lewis.
“Ond mae llawer wedi cyrraedd y pwynt lle nad ydyn nhw’n gallu fforddio aros yn y swydd maen nhw’n ei charu.
“Mae ysgolion mewn perygl o golli staff cynorthwyol, wrth i bobol chwilio, yn gyndyn, am swyddi sy’n talu’n well.
“Mae hon yn sefyllfa ofnadwy i ysgolion, o ystyried y gwaith diflino mae staff cefnogi wedi’i wneud drwy gydol y pandemig, gan sicrhau bod ysgolion yn aros ar agor a bod prydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu.
“Ond mae’r cynnydd mewn prisiau bwyd a theithio, a biliau uwch, yn golygu bod nifer o sêr ein hysgolion mewn perygl o fynd i ddyled ddifrifol neu golli eu cartrefi.
“Yn syml, dydyn nhw ddim yn ennill digon o gyflog am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod mwy o arian ar gael i ganiatáu i ysgolion gadw’r staff cynorthwyol y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw drwy eu talu nhw’n iawn.”