Bydd Adam Price yn canmol y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn ei araith i gynhadledd rithwir ei blaid heddiw (Dydd Gwener, 26 Tachwedd).
Mae disgwyl i’w araith gyfeirio at y cytundeb fel modd o “adeiladu’r genedl”, gan ddweud ei fod yn “flaendal ar annibyniaeth” ac yn cynnig “math newydd o wleidyddiaeth”.
Nod y fargen yw “mynd i’r afael â materion sy’n cymryd yr ymdrech wleidyddol a pholisi fwyaf i’w datrys”.
Bydd y pleidiau’n cydweithio i ddatblygu a goruchwylio’r gwaith o wireddu’r polisïau, sy’n ymwneud â 46 maes.
Mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ymrwymiad i gymryd camau radical ar fyrder i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi, a diwygio’r Senedd yn y tymor hir, i gyd yn rhan o’r fargen.
Prydau ysgol am ddim
Mae Plaid Cymru wedi hawlio clod am gyflwyno prydau ysgol am ddim, ac fe fydd arweinydd y blaid yn talu teyrnged i waith gan aelodau ac ymgyrchwyr sydd wedi sichrau bod darparu cinio ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn “realiti.”
Fe fydd Adam Price yn dweud: “Mae pob plentyn ysgol gynradd yn mynd i gael prydau ysgol yn rhad ac am ddim. A Phlaid Cymru sydd wedi gwneud hynny’n realiti. Rydych chi wedi gwneud hyn.
“Chi aelodau Plaid Cymru, a’r ymgyrchwyr ar lawr gwlad, sydd wedi llythyru, llefaru, a llafurio dros newid.
“I’r rheini sy’n dweud wrthych chi beth yw pwrpas gwleidyddiaeth, neu pam ddylen nhw drafferthu i bleidleisio, gallwch chi ateb yn fwy pendant byth o’r wythnos hon ymlaen.
“Mae Plaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth.”
‘Cyd-wrthblaid’
Wrth gyhoeddi’r cytundeb ar risiau’r Senedd ddydd Llun (22 Tachwedd), fe soniodd Adam Price am “fath newydd o wleidyddiaeth”, ac mae disgwyl iddo atgyfnerthu’r un neges yn ei araith heddiw.
Wrth drafod goblygiadau’r Cytundeb i ddyfodol Cymru, mae disgwyl i’r arweinydd ddweud: “Dyma Raglen Lywodraeth i adeiladu’r genedl fydd yn newid bywydau miloedd o bobl ledled ein gwlad er gwell.
“Golyga hyn y bydd Plaid Cymru yn trawsnewid ei hunan o fod yn wrthblaid draddodiadol i rywbeth newydd a gwahanol, Cyd-wrthblaid – yn cydweithio ble fo’n bosib ond yn parhau i herio, i graffu, ac i feirniadu pan fo’r angen.
“Nid oes cynsail o fewn gwleidyddiaeth yr ynysoedd hyn o ran beth sydd ar y gorwel.
“Mae’n Ymadawiad Cymreig cwbl unigryw o’r Cyfansoddiad Prydeinig – blaendal ar annibyniaeth os mynnwch – er bod trefniadau tebyg wedi eu mabwysiadau mewn mannau eraill – yn bennaf yng ngwledydd Sgandinafia megis Sweden, Denmarc a Norwy; ac yng ngwledydd y Gymanwlad megis Seland Newydd. Mae gwledydd bychan yn torri cwys newydd.”
Annibyniaeth
Bydd Adam Price hefyd yn cyfeirio at ddyfodol cyfansoddiadol Cymru gan fynnu bod etholiad mis Mai wedi cadarnhau statws Cymru fel cenedl sy’n “chwilfrydig am annibyniaeth”.
“Chwilfrydedd a fydd yn esgor ar Gymru annibynnol – a hynny’n gynt na’r disgwyl.
“I Gymru fod yn rhydd, rhaid iddi’n gyntaf fod yn unedig.
“A dyna beth mae’r Cytundeb Cydweithio hwn yn ceisio ei gyflawni.
“Mae’n ein lansio ar lwybr tua Chymru unedig, un a fydd yn gynt nag y mae rhai yn ei ddisgwyl yn canfod ei bod yn gysurus a naturiol, yn wir, yn hanfodol i ymuno gyda’r gymuned ryngwladol o genhedloedd normal, annibynnol.”
Mae angen i aelodaeth y Blaid gymeradwyo’r cytundeb yn ystod y gynhadledd dros y penwythnos, er mae disgwyl iddo basio.
Wedi hynny, bydd y cytundeb yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.
Fe fydd Adam Price yn mynnu bod y bartneriaeth yn fodd o blannu “‘hedyn dan yr eira’ i dyfu Cymdeithas newydd, Cymru newydd, a dechrau newydd”.
Bydd yr araith yn cael ei thraddodi’n rhithwir i Blaid Cymru nos fory (26 Tachwedd) am 6yh.