Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru yn dweud bod y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn agor y posibilrwydd o gyflwyno “treth ar dwristiaeth” drwy ddiwygio cyllid llywodraeth leol.

Mae Suzy Davies, cyn-AoS Ceidwadol sy’n gadeirydd ar Gynghrair Twristiaeth Cymru, yn poeni y gall y cytundeb arwain at godi trethi a fyddai’n “niweidiol” i’r sector, meddai.

Fel rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru, maen nhw wedi addo “gweithredu’n uniongyrchol a radical i fynd i’r afael â’r llu o ail gartrefi”.

Eisoes mae papur newydd The Telegraph wedi beirniadu’r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru sy’n addo mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Fe ddywedodd y papur newydd ceidwadol y byddai hyn yn “codi ofn ac yn gyrru buddsoddiad i ffwrdd o’r ‘Principality’ gan niweidio twf economaidd”.

“Deall y pryder”

“Rydym yn deall y pryder am effaith nifer anghymesur o ail gartrefi mewn rhai cymunedau,” meddai Suzy Davies.

“Dyna pam mae ein haelodau’n cefnogi’r egwyddor o wahaniaethu rhwng busnesau twristiaeth go iawn, gosodiadau gwyliau heb eu rheoleiddio, ac ail gartrefi sy’n cael eu gadael yn wag am ran helaeth o’r flwyddyn.

“Yr hyn nad ydym yn ei ddeall yw pam bod y cytundeb hwn yn edrych i roi pwysau ariannol ychwanegol ar y diwydiant yn y sector preifat sydd wedi’i daro galetaf, sy’n gwella’n arafach nag unrhyw sector arall, ac sy’n cyfrannu £6 biliwn  y flwyddyn i economi Cymru – traean cyllideb Llywodraeth Cymru.”

Cynlluniau

Daeth ymgynghoriad i ddefnyddio’r system dreth i reoli’r farchnad ail gartrefi i ben yr wythnos ddiwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru yn didoli’r ymatebion cyn i weinidogion benderfynu beth i’w wneud.

Fe allai hyn arwain at drethi cyngor uwch ar ail gartrefi, neu olygu bod cyfyngiadau newydd ar gofrestru cartrefi fel busnesau, ymhlith posibiliadau eraill.

Ond yn ôl Suzy Davies fe ddylai’r Llywodraeth ystyried effeithiau eu cynlluniau.

“Barn y diwydiant”

“Mae nhw [y Llywodraeth] yn gwybod barn y diwydiant am yr effaith y bydd mesurau fel hyn yn ei chael ar fusnesau lleol ac, felly, swyddi lleol,” meddai.

“Mae hyd yn oed ystyried treth ar dwristiaeth pan fydd busnesau’n ailadeiladu ar ôl y gwaethaf o’r pandemig yn gamsyniad llwyr.”

“Mae ein busnesau’n wynebu storm berffaith o gynnydd yng nghost cyflenwadau ar adeg o brinder cyflenwadau.

“Maen busnesau’n cymryd yr holl risg ariannol ar adeg pan mae costau byw ar gynnydd. Ac maen nhw’n wynebu ansicrwydd parhaus am gyfyngiadau Covid.”

Fe ddywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, mai nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau fod gan “bobol ifanc gael gobaith realistig o brynu neu rentu cartrefi fforddiadwy yn y lleoedd y maent wedi tyfu i fyny fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol”.

Ac fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydym wedi ymrwymo i ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol drafft yn Hydref 2022 a fyddai’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardollau ar dwristiaeth. Byddwn yn parhau i drafod â’r sector twristiaeth, cynghora lleol, partneriaid cyflenwi a phobl Cymru er mwyn helpu i lywio polisïau a chynnwys yr ymgynghoriad.”