Mae Aelodau o’r Senedd wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid Cynnig Ddeddfwriaethol i ddiogelu trigolion sy’n byw mewn adeiladau sydd â chladin.
Y nod yw sicrhau y bydd Bil Diogelwch Cladin yn cael ei gyflwyno maes o law er mwyn mynd i’r afael â diogelwch y deunydd fflamadwy sy’n gorchuddio nifer o adeiladau ar hyd a lled Cymru.
Ddoe (Tachwedd 24) fe ddaeth ymgyrchwyr at risiau’r Senedd yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “lusgo’u traed” wrth ymateb i ddiogelwch y tyrrau sydd wedi eu gorchuddio â’r deunydd fflamadwy.
Daw’r galwadau hyn yn dilyn tân a fu’n gyfrifol am ladd 72 o bobl yn Nhŵr Grenfell, Llundain yn 2017.
Yn ôl Rhys ab Owen, AoS Plaid Cymru a gyflwynodd y Cynnig, mae hyn yn gam yn agosach at sicrhau diogelwch trigolion pryderus.
“Mae eu rhwystredigaeth yn druenus a dylai’r angen am weithredu o ran adeiladu diogelwch ar gyfer fflatiau uchel fod yn flaenoriaeth i lywodraethau yn Llundain a Chaerdydd,” meddai’r aelod dros Ganol De Cymru.
“Mae Plaid Cymru yn credu na ddylai lesddeiliaid diniwed dalu am waith diffygiol gan ddatblygwyr.
“Yr wyf hefyd yn pryderu am yr effaith y mae’r sefyllfa’n ei chael ar iechyd meddwl trigolion.
“Dwi wedi cwrdd â llawer , ac mae’r straen yn amlwg ar eu hwynebau. Rhan o’r straen yw nad yw pobl yn cael atebion ynglŷn â phwy fydd yn gyfrifol am waith adferol.”
Yn ôl Rhys ab Owen mae rhai o’i etholwyr wedi gofyn am gymorth i osod systemau chwistrellu dŵr mewn adeiladau a fyddai’n fodd rhad i leihau’r risg yn y tymor byr.
Ar hyn o bryd mae rhai o gynigion Llywodraeth Cymru yn cael eu datblygu drwy’r Mesur Diogelwch Adeiladu yn San Steffan.
Cronfa Ddiogelwch Adeiladau
Wrth ymateb fe ddywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, fod y Llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi trigolion lesddeiliad trwy’r “gronfa ddiogelwch adeiladau” a gyhoeddwyd mis Medi.
Fe ychwanegodd “Nid lle i fyw yn unig yw cartref ym Mhrydain—mae’n fuddsoddiad yn aml, a’r anhawster yw adfer yr adeiladau mewn ffordd sy’n cadw pobl yn ddiogel heb iddynt golli eu buddsoddiad”
Fe ddywedodd hefyd fod y broses i fynd i’r afael yn ” beth anodd a chymhleth iawn i’w wneud, ac yr ydym yn gweithio’n gyflym i weithio ein ffordd drwy’r materion cymhleth hynny.”
Fe gyfeiriodd hefyd at fethiant rhai datblygwyr i gwrdd â Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn y ddadl fe ddywedodd Rhys ab Owen wrth Golwg360 ei fod wedi “siomi” am fethiant Llywodraeth Cymru a San Steffan i gydweithio ar y mater.
“Roeddwn yn siomedig iawn o glywed bod rhai datblygwyr hyd yn oed wedi gwrthod cwrdd â’r Gweinidog Llywodraeth Cymru.
“Dylid enwi’r datblygwyr hyn ac ni ddylai cyrff cyhoeddus ddyfarnu contractau pellach i’r cwmnïau hyn.”
Y gwrthbleidiau
Gwnaeth y gwrthbleidiau hefyd gefnogi cynnig Plaid Cymru.
Yn ystod y ddadl fe gyfeiriodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds at bryder dinasyddion yn Abertawe.
“Yn Abertawe, mae lesddeiliaid yn wynebu codiadau o hyd at £4000 mewn costau gwaredu eleni yn unig,” meddai.
“Yn yr un modd, mae lesddeiliaid yng Nghaerdydd yn wynebu costau o hyd at £8,000 y flwyddyn – gyda’r ffigwr hwnnw ar fin codi.
“Mae’n rhaid datrys y broblem hon unwaith ac am byth.”
Fe ddywedodd Peter Fox, AoS Mynwy dros y Ceidwadwyr fod costau clirio cladin yn cael effaith ar gynlluniau ariannol sy’n byw yn y fflatiau hyn.
“Ni ddylai pobl orfod talu bil am rywbeth nad oes bai arnynt,” meddai.
“Mae etholwr wedi dweud nad ydynt yn gallu gwerthu eu heiddo oherwydd y cladin hyn, ac mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar eu cynlluniau ymddeol. Mae eu harian wedi’i glymu yn yr hyn y maent yn ei alw’n ‘gartrefi diwerth’.”