Mae golwg360 ar ddeall bod gwneud dysgu Hanes Cymru yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru yn rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae’n debyg hefyd y bydd yn cynnwys polisïau ar gyfer gwella addysg Cymraeg, a chyflwyno safonau ar gyfer yr iaith Gymraeg.
Cafodd y cytundeb ei gymeradwyo gan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur dros y penwythnos, ond mae disgwyl y bydd aelodau Plaid Cymru’n pleidleisio arno dros y penwythnos nesaf.
Mae golwg360 ar ddeall hefyd fod camau ar gyfer gwella darlledu yng Nghymru yn rhan o’r cytundeb.
Y bwriad, mae’n debyg, yw trafod creu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru, a datblygu polisi i greu strategaeth ar gyfer cryfhau seiliau cyfathrebu.
Byddai’r cam yn ffordd o annog cystadleuaeth o fewn y cyfryngau, a mynd i’r afael â diffyg newyddion yng Nghymru.
Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd y cytundeb, nad yw’n glymblaid rhwng y ddwy blaid, yn para am dair blynedd.
Mae polisïau eraill yn cynnwys diwygio treth y cyngor, creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, ac addewid i “weithio tuag at greu Ynni Cymru, cwmni ynni cyhoeddus ar gyfer Cymru”.
Mae lle i gredu bod y cytundeb yn dangos bod y pleidiau wedi cytuno yn y meysydd canlynol hefyd:
- rheoli rhent
- ymestyn prydau ysgol gynradd am ddim
- gofal plant i blant dwy oed
- cyfyngiadau ar berchen ar ail gartrefi
- newidiadau ym maint y Senedd a system ethol Aelodau o’r Senedd sy’n cynnwys sicrwydd ynghylch cydbwysedd rhwng dynion a menywod
Does dim disgwyl i Blaid Cymru gael lle yn y llywodraeth fel gweinidogion, ond yn ôl adroddiadau, bydd ymgynghorwyr Plaid Cymru’n cydweithio â’r Llywodraeth.
Ehangu’r Senedd
Yn ôl BBC Cymru, sydd wedi gweld y ddogfen, mae’r cytundeb yn cynnwys cefnogi cynyddu maint y Senedd o 80 i 100 aelod, cyhoeddi cyfreithiau ar gwotas rhyw, a chyflwyno system bleidleisio ‘sy’n gyfrannol – neu’n fwy cyfrannol – na’r un bresennol’.
Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r diwygiadau, ond maen nhw’n dweud bod angen mwy o weithredu er mwyn cyflwyno gwleidyddiaeth “decach a mwy cynrychioliadwy”.
Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol, bod y cytundeb yn “gam mawr ymlaen tuag at y math o ddiwygio rydyn ni ei angen er mwyn creu senedd sy’n addas i Gymru’r 21ain ganrif”.
“Dim ond gyda Senedd fwy, a mwy amrywiol, y gall y llywodraeth yng Nghymru gwrdd â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu fel gwlad,” meddai Jess Blair.
“Ond ni fydd y mesurau hyn ar eu pennau eu hunain yn ddigon i gyflwyno’r wleidyddiaeth decach, mwy cynrychioliadwy, yr ydyn ni ei hangen.
“I wneud hynny, mae’n rhaid cael cytundeb ar y system bleidleisio er mwyn ethol senedd fwy, a chryfach.
“Heb ymrwymiad i gyflwyno system fel Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy rydyn ni mewn perygl o danseilio’r camau sydd wedi cael eu gwneud er mwyn cyflwyno’r diwygiad mawr ei angen hwn.
“Mae’r cytundeb Llafur / Plaid Cymru yn un hanesyddol sydd wedi dod o hyd i gytundeb trawsbleidiol ar rai o’r materion allweddol sydd heb gael eu hateb ers rhy hir o lawer.”
‘Angen gwneud mwy’
Ychwanega Evelyn James, Rheolwr Ymgyrchu gyda Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, fod angen gwneud mwy i weld Senedd sydd “wirioneddol yn adlewyrchu poblogaeth Cymru gyda chynrychiolaeth o ferched Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, anabl, ac LHDT”.
“Fel y 21 sefydliad tu ôl i’r ymgyrch Amrywiaeth 5050, rydyn ni eisiau gweld cwotâu amrywiaeth a mesurau cryf, cadarnhaol i gynnwys pob grŵp sy’n cael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth.
“Cymerodd 20 mlynedd i ddynes Ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol gael ei hethol i’r Senedd, allwn ni ddim aros 20 mlynedd arall i fwy ymuno â hi.”