Mae 22 sefydliad meddygol wedi dod ynghyd i alw am un corff cenedlaethol i arolygu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Yn ôl y grwpiau, byddai angen i’r corff arolygu’r Gwasanaeth Iechyd yn strategol er mwyn gwella’r gofal a sicrhau bod y byrddau iechyd yn atebol.
Daw hyn wrth i un arbenigwr mewn uned frys rybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd yn niweidio cleifion, ac wrth i amseroedd aros mewn adrannau brys fod yn hirach nag erioed.
Mae’r 22 sefydliad, sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, wedi dod ynghyd i lansio ‘Rhoi terfyn ar loteri cod post’, sy’n dweud nad yw’r sefyllfa bresennol yn gweithio.
Byddai un corff cenedlaethol, annibynnol ar yn gweithio’n well ar gyfer gwella’r gofal, a chyflawni nodau ‘Cymru Iachach’ – cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal.
Fe fyddai gan gorff annibynnol y gallu i gefnogi trawsnewidiad dros y system, a hynny dros ffiniau byrddau iechyd, gyda’r pwerau cywir, meddai’r grŵp.
Gallai’r corff hefyd arwain yn genedlaethol wrth wella gwasanaethau, casglu a dadansoddi data er mwyn gwella perfformiad, gwella sefyllfaoedd cleifion, a gwella cydraddoldeb iechyd.
Yn ôl y 22 sefydliad, gallai’r corff gynnig rheolaeth gref ac atebolrwydd er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n cael y gwerth gorau gan eu hadnoddau.
‘Gweithio fel un’
“Alla i ddim gweld sut mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru am weithredu’r newidiadau sydd angen i adfer wedi Covid heb dîm Weithrediaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn sicrhau bod byrddau iechyd yn gweithio gyda’i gilydd, fel un, ar gyfer cleifion Cymru,” meddai Dr Abrie Theron, cadeirydd Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi addo Gweithrediaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 2018, does “bron i ddim cynnydd” wedi bod ar gyfer creu un, yn ôl Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon.
“Mae doctoriaid wedi codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro am y loteri cod post mewn gofal, sy’n dod â chost ddynol ac ariannol enfawr,” meddai.
“Byddai cynlluniau iechyd rhanbarthol yn caniatáu cymryd agwedd fwy strategol – ond dydi hyn ddim yn digwydd yn effeithiol dros y rhan fwyaf o Gymru, ac yn sicr dydi hyn ddim yn digwydd yn ddigon sydyn.
“Byddai un corff cenedlaethol sy’n arolygu’n strategol yn gallu gwthio trawsnewidiad yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.
“Gadewch i ni wynebu hyn, dydi’r system bresennol ddim yn gweithio.”
‘Gwaethygu anghydraddoldebau’
Dywed Gemma Roberts, rheolwr polisi a materion cyhoeddus Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, fod y pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
“Mae yna wahaniaethau anferth yn nhriniaeth a gofal pobol gydag afiechydon ar y galon a chylchrediad gwaed,” meddai.
“Mae hon yn broblem genedlaethol sydd angen cymryd agwedd genedlaethol ar ffurf strategaeth gardiaidd ar gyfer Cymru gyfan sy’n sicrhau bid pawb yng Nghymru’n cael y gofal gorau posib.”