Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar ôl i un o gontractwyr Prifysgol Bangor gyflogi morwyr yn anghyfreithlon, a pheidio â thalu digon i un o’r gweithwyr, meddai undeb sy’n cynrychioli gweithwyr morwrol.

Yn ôl undeb Nautilus International, maen nhw wedi dod o hyd i dystiolaeth fod morwr o’r Ffilipinas wedi cael ei gyflogi yn anghyfreithlon i weithio ar gwch y Prince Madog ar y Fenai ger Porthaethwy.

Clywodd yr Undeb si gan aelod o’r cyhoedd i ddechrau, a ddywedodd fod morwyr eraill wedi cael eu cyflogi’n anghyfreithlon yno hefyd.

Cwch ymchwil Prifysgol Bangor yw’r Prince Madog, sy’n caniatáu i ymchwilwyr astudio bioleg, cemeg, daeareg a ffiseg y môr.

Mae’r cwch yn cael ei reoli gan gwmni o’r Almaen, O.S. Energy, a nhw sydd wedi torri cyfreithiau’r Deyrnas Unedig, yn ôl y Ffederasiwn Gweithwyr Trafnidiaeth Rhyngwladol.

‘Goblygiadau’

Fe wnaeth Tommy Molloy, un o arolygwyr y Ffederasiwn Gweithwyr Trafnidiaeth Rhyngwladol, ymweld â’r cwch ar Hydref 23.

Yno, daeth o hyd i forwr 53 oed o’r Ffilipinas a oedd yn derbyn cyflog misol o $1,900 am weithio wyth awr y diwrnod, saith niwrnod yr wythnos.

Mae hynny gyfystyr â £5.71 yr awr, sy’n sylweddol is na’r isafswm cyflog cenedlaethol.

Doedd gan y morwr ddim fisa na thrwydded i weithio yn y Deyrnas Unedig, ond mae Nautilus Internation wedi gweld bod pasbort y dyn wedi cael ei stampio gan Lu Ffiniau’r Deyrnas Unedig.

Roedd ganddo hawl i gael mynediad, ar yr amod ei fod yn ymuno â chwch oedd am adael dyfroedd y Deyrnas Unedig wedyn.

Dywedodd Tommy Molloy bod y “Prince Madog yn gweithredu bron yn gyfan gwbl, ac yn sicr gan fwyaf, yn nyfroedd y Deyrnas Unedig”.

“Mae hynny’n golygu bod angen i Brifysgol Bangor a’u harianwyr, Llywodraeth Cymru, sicrhau bod y contractwr O.S. Energy yn cadw at isafswm cyflog y Deyrnas Unedig a’r uchafswm oriau gwaith yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dyw hon ddim yn gwch pell i ffwrdd gyda gweithlu y gallen nhw ei hecsbloetio heb oblygiadau.”

Roedd aelodau eraill o’r criw mewn sefyllfa debyg, gan gynnwys dau forwr o Wlad Pwyl a oedd wedi cael eu cyflogi’n anghyfreithlon. Er hynny, roedden nhw’n cael cyflogau uwch.

Roedd gweddill y criw yn ddinasyddion o’r Deyrnas Unedig, ar y cyfan, ac roedden nhw wedi’u syfrdanu o glywed bod hyn wedi bod yn digwydd, meddai’r undeb.

‘Rhybudd i ecsbloetwyr’

Mae undeb Nautilus International yn galw ar Brifysgol Bangor i roi pwysau ar O.S. Energy i ad-dalu’r gweithwyr sydd heb fod yn cael digon o gyflog.

Mae’r criw wedi cael eu gwahardd rhag gweithio ar y cwch nawr, ar ôl i Lu Ffiniau’r Deyrnas Unedig ddweud bod rhaid i’r morwyr oedd wedi cael eu cyflogi’n anghyfreithlon stopio gweithio i’r cwmni.

Wnaethon nhw ddim cadarnhau a yw’r morwyr wedi cael eu had-dalu, na dweud a fydd O.S. Energy yn cael eu herlyn am dorri’r gyfraith.

O ganlyniad, bu’n rhaid i’r morwr o’r Ffilipinas ddychwelyd yno ar ôl ychydig ddyddiau ar y Prince Madog, a bydd rhaid iddo aros i gael cytundeb gwaith newydd yno.

“Mae’r dyn druan yn ddioddefwr diniwed a wnaeth bopeth y gofynnwyd iddo ei wneud, yn unol â’r gyfraith fel yr oedd e’n ei deall hi,” meddai Tommy Molloy.

“O.S. Energy sydd wedi trio torri cyfraith y Deyrnas Unedig, a nhw ddylai gael eu cosbi’n llawn fel rhybudd i ecsbloetwyr posib eraill sy’n trio gwneud yr un peth yn ein dyfroedd.”

“Camddealltwriaeth gwirioneddol”

Dywedodd Prifysgol Bangor eu bod nhw’n credu mai “camddealltwriaeth gwirioneddol” yn y broses gyflogi sy’n gyfrifol am y sefyllfa, a’u bod nhw’n hyderus na thalwyd islaw’r isafswm cyflog i unrhyw griw.

“Mae Prifysgol Bangor a’n partner yn y Fenter ar y Cyd, O.S. Energy, yn ymwybodol o honiad bod achos o dorri rheolau mewnfudo mewn perthynas â thri aelod o’r criw a arferai weithio ar ein llong ymchwil, Prince Madog,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor.

“Er nad oedd y criw yn gweithio i Brifysgol Bangor – O.S. Energy sy’n gyfrifol am weithredu’r Prince Madog ac am gyflogi criw’r llong – rydym ninnau’n rhan o’r Fenter ar y Cyd, ac, fel sefydliad gofalgar a chyflogwr mawr yng Ngogledd Cymru, rydym yn cadw at gyfraith cyflogaeth ac yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifri.

“Credwn fod camddealltwriaeth gwirioneddol wedi digwydd yn y broses gyflogi yn achos y tri aelod criw medrus dan sylw sy’n ymwneud â deddfwriaeth gymhleth a pha mor aml y mae’r llong yn gweithredu y tu allan i ddyfroedd tiriogaethol Prydain.

“Talodd y Fenter ar y Cyd am gludiant dau o’r morwyr yn ôl i’w gwledydd eu hunain, a thalwyd eu cyflogau’n llawn yn unol â’u contractau.

“Talwyd cyflog i’r trydydd aelod o’r criw am ddau fis o’i gontract pum mis, ac mae O.S. Energy yn gweithio gyda’r unigolyn hwnnw i ddod o hyd i waith priodol arall iddo.

“Mae O.S. Energy yn talu criwiau yn y Deyrnas Unedig yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys yswiriant cenedlaethol, cyfraniad pensiwn a threthi.

“Rydym yn hyderus na thalwyd islaw’r isafswm cyflog i unrhyw griw.

“Mae’r Brifysgol wedi gofyn i’r Fenter ar y Cyd adolygu eu prosesau ar gyfer cyflogi staff rhyngwladol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â chyfraith cyflogaeth y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Tra bod hwn yn fater i Brifysgol Bangor, rydym yn glir y dylai pob cyflogwr, os mae’n derbyn grant gan Lywodraeth Cymru neu beidio, gydymffurfio yn llawn a chyfraith cyflogaeth y Deyrnas Unedig.”