Mae cynghorau lleol yn annog mwy o ferched a phobol o grwpiau sy’n cael eu tan-gynrychioli i ystyried sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol nesaf.

Mae pob cyngor sir yn datblygu cynlluniau gweithredu lleol, ac mae disgwyl i bob cyngor arwyddo datganiadau Cyngor Amrywiol cyn diwedd y flwyddyn, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynrychioli eu cymunedau yn well.

Er bod peth cynnydd wedi’i wneud yn ddiweddar, dim ond 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, a dim ond chwech o’r 22 awdurdod lleol sy’n cael eu harwain gan fenywod.

Mae gan 11% o gynghorwyr Cymru anableddau, a dim ond 1.8% sy’n ddu, Asiaidd neu’n dod o leiafrifoedd ethnig.

Ymrwymiadau

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi ystod o ymrwymiadau i geisio hybu amrywiaeth mewn democratiaeth eisoes, gan gynnwys annog yr holl bleidiau gwleidyddol i ymrwymo i weithgareddau er mwyn gwella’r amrywiaeth.

Gyda’r disgwyl i’r holl gynghorau ddod yn Gynghorau Amrywiol erbyn diwedd y flwyddyn, mae’r datganiad yn golygu eu bod nhw’n darparu ymrwymiad cyhoeddus, clir i wella amrywiaeth.

Mae’n golygu bod rhaid iddyn nhw amlinellu cynllun gweithredu erbyn etholiadau 2022 er mwyn hybu amrywiaeth, arddangos diwylliant agored a chroesawgar, ac ystyried aildrefnu amseroedd cyfarfodydd cyngor er mwyn cefnogi cynghorwyr ag ymrwymiadau eraill.

Mae’r Gymdeithas Lywodraeth Leol yn dweud y dylai cynghorau osod targedau i fod yn gynrychiadol o’u cymunedau erbyn yr etholiadau nesaf hefyd.

‘Angen camau breision’

“Rydyn ni wedi gweld peth cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf i weld ein cynghorau yn dod yn llefydd mwy amrywiol. Ond mae’n rhaid i ni gyflymu’r newidiadau hynny,” meddai’r Cynghorydd Jane Mudd, sydd ar Gyngor Casnewydd ac yn llefarydd y Gymdeithas Lywodraeth Leol dros gydraddoldeb.

“Rwy’n falch bod cynghorau yn gweithredu ar yr ymrwymiadau uchelgeisiol a wnaethpwyd yn gynharach eleni, gyda disgwyl i bob cyngor wneud datganiadau ‘Cynghorau Amrywiol’ erbyn diwedd y flwyddyn.”

Y wythnos ddiwethaf, cafodd gweithdy ei gynnal rhwng y Gymdeithas Lywodraeth Leol a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, er mwyn rhannu profiadau a syniadau.

“Fel rydym ni i gyd yn gwybod, mae angen modelau rôl i adlewyrchu safbwyntiau ehangach ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd, mwy amrywiol o arweinwyr sifig i ystyried sefyll mewn etholiadau,” meddai Jane Mudd.

“Ac rydym yn gwybod fod angen i ni gymryd camau breision yn yr etholiadau ym mis Mai os ydyn ni am weld ein cynghorau’n adlewyrchu eu cymunedau.

“Dyw bod yn gynghorydd ddim yn rôl rhwydd. Ond mae’n bendant yn rhoi llawer o foddhad; gallwch chi wneud pethau. Gallwch chi roi llais i’r rhai sydd angen cael eu clywed. Gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y rôl i ymweld â www.byddwchyngynghorydd.cymru neu i gysylltu gyda’ch cyngor lleol, am ystod o adnoddau defnyddiol.”

Ar hyn o bryd, does dim ystadegau swyddogol yn bodoli ar gyfer pob cyngor lleol ac wrth siarad gyda golwg360 dros yr haf dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru mai dyna un o’r pethau sydd ei angen er mwyn mynd i’r afael â diffyg amrywiaeth.

Er bod ymdrechion ar y gweill, mae “gymaint mwy y gellir ei wneud I wella’r amrywiaeth” ymysg cynghorwyr awdurododau lleol, meddai.

Mae hi’n debyg mai Ynys Môn, Merthyr Tudful a Cheredigion sydd â’r canrannau isaf o fenywod ar eu cynghorau, gyda’r ganran rhwng tua 10% a 12%.

Mae’r rhan fwyaf o’r cynghorau ymhell o gyrraedd 50%, gyda’r canrannau uchaf yn Nhorfaen, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe, gyda thua 40-45% o’r cynghorwyr yn fenywod yn y tri awdurdod.

Galw am wneud mwy i wella’r amrywiaeth ar gynghorau lleol

Cadi Dafydd

28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, ac mae angen i gynghorau adlewyrchu’r holl boblogaeth, meddai Jess Blair