Mae Prif Weinidogion Cymru a’r Alban wedi anfon llythyr ar y cyd at Brif Weinidog Prydain yn galw arno i gymryd mesurau brys i ymateb i’r amrywiolyn Omicron.
Cafodd yr achosion cyntaf o’r amrywiolyn Omicron eu cofnodi dros y penwythnos, gyda thri achos ers ddoe (dydd Sul, Tachwedd 28).
Mae hynny wedi achosi i Lywodraeth Prydain ailgyflwyno cyfyngiadau teithio llym i nifer helaeth o wledydd Affrica, ac mae’n rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o dramor gael prawf PCR a hunanynysu nes cael canlyniad negatif.
Galwad
Mae Nicola Sturgeon a Mark Drakeford yn nodi eu dyhead o wneud prawf PCR yn orfodol i deithwyr ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ailgyflwyno hunanynysu ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Hefyd, maen nhw’n galw ar y Trysorlys i gyllido unrhyw gefnogaeth ariannol mae’r llywodraethau datganoledig yn ei rhoi i fusnesau.
“Mae ymddangosiad Omicron wedi peri bygythiad posib i’r Deyrnas Unedig,” meddai’r arweinwyr datganoledig yn y llythyr.
“Yn amlwg, mae’r straen yma’n barod a’i fod yn ymddangos yn drosglwyddadwy iawn.
“Bydd angen inni felly weithio yn gydweithredol – a’n effeithiol – fel Pedair Gwlad i gymryd pob cam rhesymol i reoli dyfodiad y firws i’r wlad a lleihau ei ledaeniad.”
Cobra
Yn eu llythyr at Boris Johnson, mae Nicola Sturgeon a Mark Drakeford hefyd yn dweud bod angen cyfarfod pwyllgor Cobra brys, er mwyn sicrhau bod pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn cytuno ar ddull cydweithredol o atal yr amrywiolyn rhag lledaenu.
Dywedodd yr arweinwyr eu bod nhw’n “dymuno gweld y dystiolaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr iechyd Llywodraeth Prydain ynglŷn â’r amrywiolyn” a “deall y darlun rhyngwladol, ynghyd â’r goblygiadau y gallai ei gael ar y Deyrnas Unedig”.
Maen nhw hefyd yn credu ei bod hi’n “hollbwysig” fod y llywodraethau’n gwneud “popeth yn eu gallu” i beidio gwneud ymdrechion y Gwasanaeth Iechyd yn ofer drwy beidio â chaniatáu teithio a mewnforio i Brydain fel ag y mae.
Wrth ymateb i’r cais am gyfarfod Cobra, dywedodd Rhif 10 Stryd Downing wrth wasanaeth newyddion PA y bydden nhw’n “cadarnhau unrhyw gynlluniau ar gyfer cyfarfod Cobra yn y ffordd arferol. Ar hyn o bryd, nid oes un wedi’i drefnu.
“Rydym yn amlwg yn siarad â’n cymheiriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig yn rheolaidd iawn a byddwn yn parhau i gydgysylltu ein hymateb gyda nhw.”