Mae dyfais ffrwydrol wedi cael ei chanfod mewn tŷ yn ardal Gellifedw yn Abertawe.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw tua 8:39 fore heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29) ar ôl i’r ‘ordnans tybiedig’ ddod i’r amlwg mewn gardd ar Heol y Cyw.
Mae trigolion sy’n byw yn agos i’r digwyddiad wedi cael eu symud o’r ardal fel rhagofal, gyda rhwystrau’n cael eu gosod i atal pobol rhag mynd yno.
Hefyd, fe wnaeth yr heddlu holi am gymorth tîm gwaredu arfau ffrwydrol, sydd bellach wedi eu galw i fynychu’r digwyddiad.
Datganiad yr heddlu
Rhoddodd canghennau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot Heddlu’r De ddatganiad ynglŷn â’r digwyddiad.
“Cafodd swyddogion eu galw tua 8:39 fore heddiw (29 Tachwedd) ar ôl i ordnans tybiedig gael ei ddarganfod mewn gardd ar Heol y Cyw, y Gellifedw, Abertawe,” medden nhw.
“Rydyn ni wedi ceisio cyngor arbenigol tîm Gwaredu Ordnans Ffrwydrol (JSEOD), sydd ar eu ffordd i’r digwyddiad.
“Mae rhwystr wedi ei osod mewn lle ac mae trigolion sy’n byw o fewn y rhwystr hwnnw wedi cael eu hymgilio fel rhagofal.
“Rydyn ni’n cynghori pobol i gadw i ffwrdd o’r ardal tra bod y JSEOD yn cwblhau ymholiadau, i sicrhau eu diogelwch eu hunain.”