Mae gweithwyr gyda chwmni Panasonic wedi penderfynu streicio unwaith eto oherwydd y ffrae dros dâl.

Dyma’r trydydd tro i aelodau o undeb GMB sy’n gweithio yn ffatri’r cwmni yng Nghaerdydd wrthod gweithio, gan ffurfio llinell biced ar y safle heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29).

Daw hyn ar ôl i’r gweithgynhyrchwr o Japan gyhoeddi cynlluniau i rewi tâl gweithwyr am yr ail flwyddyn yn olynol.

Roedd y gweithwyr eisoes wedi gwrthod gweithio ar ddau ddydd Llun dros y bythefnos ddiwethaf hefyd (Tachwedd 15 a 22).

Mae disgwyl iddyn nhw streicio am y pedwerydd tro ddydd Llun nesaf (Rhagfyr 6), gyda dyddiadau pellach i gael eu cyhoeddi’n fuan pe bai’r anghydfod yn parhau.

‘Haeddu codiad cyflog go iawn’

Mae’n debyg y bydd undeb GMB a Panasonic yn trafod gyda chorff ACAS yfory (dydd Mawrth, Tachwedd 30) i geisio cymderoli’r sefyllfa.

Mae Nicola Savage, trefnydd rhanbarthol undeb GMB, yn dweud bod y gweithwyr yn “haeddu” codiad yn eu cyflog.

“Dyma’r trydydd tro i’n haelodau GMB yn Panasonic gerdded allan,” meddai.

“Er gwaethaf y tywydd oer, maen nhw mewn hwyliau da.

“Mae cegin gawl a fan byrgyr wrth law i’w bwydo nhw a darparu dŵr, tra bod undebau eraill ac aelodau’r cyhoedd wedi dangos undod.

“Mae ein haelodau’n haeddu codiad cyflog go iawn, a fydd y GMB ddim yn gorffwys nes y gwelwn ni hynny.”

Cefnogaeth

Mae Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol yn lleol wedi anfon llythyrau at Panasonic yn erfyn arnyn nhw i ailystyried eu cynlluniau.

Ysgrifennodd Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd – etholaeth sy’n cynnwys y ffatri ym Mhontprennau – yn dweud ei bod hi’n annheg i weithwyr beidio â chael cyflogau teg ar ôl y pandemig, yn enwedig o ystyried bod Panasonic wedi gwneud elw yn y cyfnod hwnnw.

Roedd hi’n galw arnyn nhw i ddychwelyd at y bwrdd er mwyn trafod ac ystyried rhoi cynnig gwell i’r gweithwyr.

Fe wnaeth Julie Morgan AoS ac Anna McMorrin AS, yr aelodau dros Ogledd Caerdydd, ysgrifennu at y cwmni ar y cyd.

Dywedon nhw eu bod nhw’n “sefyll mewn undod” gyda gweithwyr y ffatri, gyda llawer ohonyn nhw’n dod o’u hetholaeth nhw.