Mae Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn dweud bod angen i rai gwleidyddion “dyfu i fyny” .
Daw hyn ar ôl i gyn-Ysgrifennydd Gwrthblaid San Steffan dros Gymru, Nia Griffith AS, honni mai polisi ym maniffesto Llafur Cymru oedd cynnig cinio ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol yng Nghymru.
Mi wnaeth y sylwadau wrth drafod y cytundeb newydd â Llywodraeth Cymru.
Roedd prydau ysgol am ddim yn un o nifer o bolisïau a gafodd eu cyhoeddi ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o gytundeb arloesol rhwng y ddwy blaid.
Dywed Mabon ap Gwynfor wrth golwg360 mai dim ond wrth gydweithio maen nhw wedi gallu gwireddu’r polisïau, gan wrthddweud honiadau Nia Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli.
Yn y cyfamser, mae Nia Griffith newydd golli’r cyfrifoldeb dros Gymru yn dilyn ad-drefnu’r wrthblaid heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29), gyda Jo Stevens AS yn cymryd ei lle.
Glad to hear @Plaid_Cymru are supporting @PrifWeinidog and our excellent progressive @WelshLabour policies incl extending free school meal provision https://t.co/opI4p2oBse
— Nia Griffith MP (@NiaGriffithMP) November 27, 2021
‘Angen tyfu i fyny’
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, mae “angen tyfu i fyny” a chydnabod rôl y ddwy blaid wrth lunio’r polisi cinio ysgol am ddim, yn ogystal â gweddill y cytundeb.
“Mae angen bod yn fwy aeddfed a chydnabod mai cytundeb ar y cyd ydi o,” meddai wrth golwg360.
“Ydi, mae o’n bolisi gan Blaid Cymru ac wedi bod ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Rydyn ni wedi trio ei basio drwy’r Senedd ond heb lwyddo.
“Ond rŵan, oherwydd ein bod ni wedi cydweithio efo Llafur, sef y Llywodraeth, rydyn ni wedi gallu gwireddu hyn.
“Rydyn ni’n trio creu a chyflwyno math newydd o wleidyddiaeth i bobol Cymru, yn wahanol i’r math sydd yn San Steffan lle mae pobol yn cecru a ffraeo drwy’r amser.
“Rydyn ni’n trio dangos bod posib cydweithio a ffeindio tir cyffredin er mwyn sicrhau bod polisïau blaengar fel hyn yn cael eu gweithredu.”
‘Dw i’n dawel fy meddwl a fy nghydwybod’
Dydi Mabon ap Gwynfor ddim yn bryderus fod gwleidyddion o’r blaid Lafur yn cymryd clod am bolisïau fel rhoi cinio ysgol am ddim i ddisgyblion.
“Nid dyna ydi pwynt y polisi,” meddai.
“Pwynt y polisi yma ydi sicrhau bod plant yn cael bwyd o ansawdd da er mwyn gwella yn eu haddysg. Dyna ydi pwynt y polisi a dyna pam es i mewn i wleidyddiaeth, er mwyn gwella ansawdd bywydau pobol.
“Os ydi pobol eisiau ‘chwarae gwleidyddiaeth’, yna mae hynny fyny iddyn nhw, ond dw i’n dawel fy meddwl a fy nghydwybod ein bod ni wedi gwneud y peth iawn a pheth da yn fan hyn.”
‘Eu problem nhw ydi o, nid ein problem ni’
Wrth drafod y berthynas rhwng Llafur Prydain a Llafur Cymru, mae Mabon ap Gwynfor, a gafodd ei ethol am y tro cyntaf eleni, yn dweud nad yw hynny’n broblem i Blaid Cymru.
“Mae’n deg dweud fod yna anghytuno wedi bod o safbwynt aelodau San Steffan y Blaid Lafur a’u haelodau yn Senedd Cymru yn ôl fy nealltwriaeth i,” meddai.
“Ond rhyngddyn nhw â’i gilydd ydi hynny. Eu problem nhw ydi o, nid ein problem ni.
“Beth sydd gennym ni fan hyn ydi llywodraeth sydd wedi dangos parodrwydd i gydweithio ar rai o bolisïau mwyaf blaengar y blaid, ac felly rhyngom ni, rydyn ni’n gallu cydweithio er mwyn gwella ansawdd bywydau pobol Cymru.
“Os ydi aelodau o’r blaid Lafur yn poeni am hyn, yna mae hi fyny iddyn nhw ddatrys hynny.”