Mae Jo Stevens, Aelod Seneddol Llafur Canol Caerdydd, wedi cael ei phenodi’n llefarydd Cymru y Blaid Lafur yn San Steffan wrth i Syr Keir Starmer ad-drefnu ei gabinet.

Roedd hi’n arfer bod yn llefarydd diwylliant, y cyfryngau, chwaraeon a materion digidol yn yr Adran DCMS.

Bydd Jo Stevens, sydd wedi bod yn Aelod Seneddol ers 2015, yn olynu Nia Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli.

Bu Jo Stevens yn llefarydd Cymru am ychydig fisoedd rhwng diwedd 2016 a dechrau 2017 a chyn hynny, treuliodd hi gyfnod yn Gwnsler Cyffredinol Cysgodol ac yn llefarydd cyfiawnder ei phlaid.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd ei bod hi’n “symud swyddi yn y Cabinet Cysgodol o DCMS i Gymru”.

“Mae hi wedi bod yn fraint gweithio’n agos â phobol hynod dalentog yn y sector DCMS, y sector oedd yn tyfu gyflymaf cyn y pandemig ac un o’r rhai gafodd ei daro galetaf,” meddai.

“Dw i eisiau parhau â gwaith gwych fy ffrind Nia Griffith yn y swydd newydd.”

‘Cyfoeth o brofiadau’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford ei fod e eisiau rhoi teyrnged i Nia Griffith, “sydd wedi bod yn hyrwyddwr cryf dros Gymru” yn ystod ei hamser yn y rôl.

“Mae Nia wedi bod yn llais blaenllaw dros fuddion Cymru yn San Steffan – o ddal y Prif Weinidog yn atebol dros ei addewid i ‘basbortio’ arian llifogydd Cymreig, i sefyll fyny dros fusnesau Cymreig ac annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn ei rhaglen ffyrlo, a chymaint mwy,” meddai Mark Drakeford, arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

“Dw i’n gwybod y bydd hi’n parhau i wneud cymaint dros y cymunedau y mae hi’n eu cynrychioli.

“Llongyfarchiadau i Jo Stevens ar ei phenodiad fel yr Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Gymru.

“Mae gan Jo gyfoeth o brofiadau, a dw i’n gwybod y bydd hi’n llais pwerus dros fuddiannau yma yng Nghymru, tu mewn a thu allan i Dŷ’r Cyffredin.

“Blaenoriaeth frys y ddau ohonom ni yw sicrhau bod Cymru â’r arfau gorau i ymdopi â dyfodiad amrywiolyn Omicron y coronafeirws.

“Dw i’n gwybod y bydd Jo yn sefyll dros Gymru, ac yn gwthio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod Cymru’n cael yr adnoddau rydyn ni eu hangen i gefnogi teuluoedd, busnesau, ac unigolion wrth i ni barhau i ymateb i’r pandemig.”

Fe wnaeth Keir Starmer ddechrau ad-drefnu’r cabinet wrth i’r dirprwy arweinydd, Angela Rayner, roi araith am ymddygiad gweinidogion.

Dywedodd llefarydd ar ran Angela Rayner wrth y BBC ei bod hi “wedi cael gwybod fod ad-drefnu’n digwydd”, ond nad oedd hi’n gwybod “am unrhyw fanylion”.

Fe wnaeth yr ad-drefnu diwethaf yn y cabinet cysgodol arwain at ffrae fewnol, pan wnaeth Keir Starmer geisio cael gwared ar Angela Rayner fel cadeirydd a chydlynydd ymgyrchoedd cenedlaethol y blaid.