Gall ymwelwyr unwaith eto fynychu ysbytai yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar ôl i’r bwrdd iechyd lacio cyfyngiadau.

Mae’n debyg bod nifer yr achosion Covid-19 yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lleihau yn yr ysbytai ac yng nghymunedau’r tair sir.

Er hynny, bydd yn rhaid iddyn nhw drefnu pob ymweliad ymlaen llaw o ddydd Llun, 29 Tachwedd, a hynny ar yr amod bod pwrpas clir i’r ymweliad.

Mae’r bwrdd iechyd yn nodi eu bod nhw’n croesawu gofalwyr, rhieni a gwarcheidwaid i ymweld ag ysbytai, ynghyd ag os yw claf ar ddiwedd oes, ag anableddau dysgu neu ddementia.

Bydd Prif Nyrs y Ward hefyd yn ystyried ceisiadau y tu allan i’r canllaw uchod mewn rhai amgylchiadau, cyn belled â bod er lles y cleifion.

Prawf llif unffordd

Yn ogystal, bydd rhaid cael canlyniad prawf llif unffordd negatif cyn teithio i’r ysbyty, a dilyn canllawiau fel gwisgo gorchudd wyneb, cadw pellter cymdeithasol a glanhau dwylo wrth ymweld.

Mae’r bwrdd iechyd yn rhybuddio eu bod nhw’n parhau i ddelio ag achosion o Covid-19 a heintiau anadlol eraill yn eu hysbytai, a’n adolygu eu trefniadau ymweld yn gyson.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Ar ran y bwrdd iechyd rwyf am fynegi ein diolch i’n cleifion, eu teuluoedd a’n cymunedau am eich dealltwriaeth barhaus gan lynu wrth y rheolau ymweld llym iawn yr ydym wedi gorfod eu gosod trwy gydol y pandemig hwn.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi ei fod yn gyfnod anodd i bawb. Byddwn yn parhau i gefnogi llesiant ein cleifion / defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a’u hanwyliaid yn y ffordd orau y gallwn, gan gadw pawb mor ddiogel â phosibl.

“Gall ein tîm cymorth i gleifion a swyddogion cyswllt teulu helpu i ddosbarthu eitemau hanfodol i gleifion o’u teulu a hwyluso cyfathrebu trwy opsiynau digidol / ffôn; os oes angen eu cymorth arnoch, ffoniwch nhw ar 0300 0200 159 a byddan nhw’n gwneud eu gorau i’ch helpu chi.”