Does gan drefnwyr Cwpan Pencampwyr Heineken ddim bwriad gohirio gemau yn sgil yr amrywiolyn newydd o dde Affrica a thrafferthion teithio i rai clybiau.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau eleni ar ddydd Gwener, Rhagfyr 10, ac mae tîm rygbi Caerdydd yn parhau i geisio dychwelyd o Dde Affrica ar ôl i gyfyngiadau teithio gael eu cyflwyno ar y wlad.

Cape Town

Mae eu gobeithion o allu dychwelyd yn ôl i Gymru dan amheuaeth oherwydd achosion positif o Covid-19, gan gynnwys un achos tybiedig o’r amrywiolyn Omicron.

Byddan nhw’n wynebu deg diwrnod o ynysu pan fyddan nhw’n llwyddo i ddychwelyd o’u gwersyll yn Cape Town, lle roedden nhw’n paratoi i chwarae dau o dimau De Affrica cyn i’r gemau hynny gael eu gohirio.

Fe wnaeth chwaraewyr a staff y Sgarlets allu cael hediad i Ddulyn fore heddiw (dydd Llun, 29 Tachwedd), ac maen nhw bellach yn ynysu mewn gwesty ym Melffast.

Colli gemau’n awtomatig?

Mae Caerdydd i fod i agor eu hymgyrch yn Ewrop gyda gêm gartref yn erbyn y pencampwyr Toulouse, ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr, tra bod y Sgarlets i fod i deithio dros Bont Hafren i herio Bryste ar yr un diwrnod.

Mae risg y bydd unrhyw dimau sy’n methu ag ymddangos yn un o gemau Cwpan y Pencampwyr yn colli’r gêm yn awtomatig, gyda buddugoliaeth 28-0 yn cael ei chofnodi i’r gwrthwynebwyr.

Cafodd hynny ei feirniadu’n llym y llynedd, pan roedd nifer o glybiau’n methu â chwblhau gemau oherwydd achosion o Covid-19.

Mae’r corff sy’n gyfrifol am rygbi cyfandirol, yr EPCR, yn “monitro’r sefyllfa” ac mewn “cysylltiad â’r clybiau.”

Dywedodd llefarydd ar ran Rygbi Caerdydd bod pob un o’r profion PCR neithiwr (28 Tachwedd) wedi “dychwelyd canlyniadau negatif,” ac eithrio’r chwaraewyr sy’n hunanynysu.

“Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’r holl awdurdodau perthnasol i sicrhau ein bod ni’n dychwelyd i Gymru,” meddai.

“Mae’r ddau chwaraewr a brofodd yn bositif dros y penwythnos yn parhau i ynysu ar wahân i westy’r tîm ac yn parhau i fod mewn cyflwr da.”

Y Scarlets wedi dychwelyd o Dde Affrica

Mae’r garfan mewn gwesty “ynysu” yn Belffast